Ni fydd Bale yn chwarae yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn oherwydd anaf i linyn y gar, ac ymatebodd Verheijen i'r newyddion ar Twitter drwy ddweud bod "yr amaturiaid di-glem wedi taro eto". Cafodd hynny ei ddehongli fel ymosodiad ar Spurs am ruthro Bale yn ôl i chwarae cyn rhoi cyfle iddo wella'n iawn wedi anaf i'w gefn. Ond mae Verheijen wedi ffonio'r clwb i wadu mai hynny oedd ei fwriad, gan fynd ymlaen i egluro mai cyfeirio at y wasg oedd ei neges. "Yr amaturiaid di-glem oedd y bobl a dywedodd yn y newyddion bod Gareth Bale wedi ei anafu wrth ymarfer gyda Chymru pan ni fuodd yn ymarfer o gwbl," dywedodd Verheijen ar ei safle Twitter. "Roedd y newyddion y bore yma ynglŷn ag anaf llinyn y gar Gareth Bale yn gwneud i ni [Cymru] edrych fel amaturiaid. Roedd angen i ni amddiffyn ein hunain. "Mi fyddem yn ddiolchgar pe bai pobl yn ymddiheuro am gyhoeddi yn anghywir bod staff Cymru yn flin gyda Spurs." Mae Spurs wedi dweud eu bod yn derbyn eglurhad Verheijen. Cafodd y gŵr o'r Iseldiroedd ei benodi yn is-hyfforddwr Cymru ym mis Chwefror. Mae ganddo brofiad helaeth o bêl-droed rhyngwladol ac yntau wedi bod yn rhan o dimau hyfforddi'r Iseldiroedd, Rwsia, De Corea ac Awstralia. Yn fwy diweddar, mi fuodd yn gweithio o dan Mark Hughes gyda Manchester City, ond fe adawodd y clwb wedi ffrae gydag olynydd y Cymro, Roberto Mancini. Mae Verheijen wedi bod yn feirniadol iawn o ddulliau hyfforddi Mancini, a nifer o glybiau mawr eraill Lloegr, drwy ddweud bod chwaraewyr ddim yn cael digon o gyfle i wella'n iawn wedi anafiadau.
 |