Golwr Derbyn County, Stephen Bywater, sydd wedi ymuno gyda'r Adar Gleision am y pedwar wythnos nesaf. Ond mae hawl gan Derby ei alw'n ôl ar rybudd o 24 awr. Mae Bywater, 29 mlwydd oed, yn holliach ar ôl anaf i'w asennau ond yn annhebygol o adennill ei le yn nhîm Derby ar draul Frank Fielding. Roedd Caerdydd yn awyddus i arwyddo dau golwr gan fod y dewis cyntaf tymor yma, Tom Heaton, yn dioddef o anaf i'w goes, tra bod David Marshall allan am weddill y tymor yn dilyn llawdriniaeth i'w benelin. A chan bod yr Adar Gleision mewn sefyllfa mor addawol er mwyn ennill dyrchafiad, mae'r rheolwr Dave Jones wedi penderfynu peidio â chymryd unrhyw risg gyda'r ddau yna. Brown neu Bywater fydd rhwng y pyst ar gyfer y gêm yn ebryn Ipswich Town ddydd Sadwrn.
 |