| Mae Bale wedi serennu i Spurs y tymor hwn, yn enwedig yn ymgyrch y clwb yng Nghynghrair y Pencampwyr. Dywedodd rheolwr Spurs Harry Redknapp ei fod yn falch iawn bod Bale wedi ymrwymo i'r clwb yn enwedig gan fod rhai o fawrion Ewrop yn ei lygadu. "Mae'n chwaraewr gwych a'r math 'da ni angen cadw yn Spurs," meddai Redknapp. "Mae Gareth bellach yn un o'r chwaraewyr asgell chwith gorau yn y byd. Mae'n dalent anhygoel fydd ond yn gwella." Fe ymunodd Bale, sydd wedi ennill 27 o gapiau dros Gymru, gyda Spurs o Southampton am £5m yn 3007. "'Dwi'n mwynhau fy mhêl-droed yn Tottenham," meddai'r chwaraewr 21 oed. "'Dwi eisiau i ni barhau i symud ymlaen a gobeithio y gallem gyflawni pethau mawr. "'Da ni wedi profi yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor hen ein bod yn gallu cystadlu gyda'r goreuon. "'Da ni yn yr with olaf yn awr a does dim rheswm pam na allwn fynd ymhellach y tymor wn ac am flynyddoedd i ddod." Mae Bale wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr yn rowndiau rhagbrofol 2012 yng Nghaerdydd y Sadwrn nesaf. Bu allan am chwe wythnos yn ddiweddar oherwydd anaf i'w gefn ond fe gêm lawr i Spurs yn erbyn West Ham yn Uwchgynghrair Lloegr ddydd Sadwrn.
 |