| Mae'r mater yn ymwneud â throsglwyddiad yr Archentwr Alejandro Faurlin o glwb Instituto de Cordoba yn 2009. Mae Rangers wedi cael eu cyhuddo o ddod i gytundeb gyda thrydydd person ynglŷn ag arwyddo Faurlin. A pe byddai'r clwb yn euog o'r cyhuddiadau fe allent nhw golli pwyntiau. Ar hyn o bryd mae tîm Neil Warnock ar frig y Bencampwriaeth, saith pwynt yn glir o Abertawe sydd yn ail gyda Chaerdydd yn y bedwaredd safle, naw pwynt tu ôl i QPR
 |