Mae'r ddau wedi derbyn cosb yn dilyn digwyddiad mewn sba iechyd yr wythnos ddiwethaf. Y gred yw bod y ddau wedi ffraeo gydag aelodau o'r tîm hyfforddi. Dywedodd rheolwr Villa Gerard Houllier bod y clwb wedi "ymateb yn gryf" i ymddygiad y ddau chwaraewr. Bu'n rhaid i Collins a Dunne egluro eu gweithredoedd gerbron panel disgyblu'r clwb. Ni fydd y ddau yn chwarae i Villa yn erbyn Wolves ddydd Sadwrn oherwydd anafiadau. Ond mae Houllier wedi dweud y bydd Collins a Dunne yn cael eu hystyried unwaith y bydden nhw wedi gwella o'u hanafiadau. Mae Collins yn dioddef gydag anaf i'w goes ac mae amheuaeth os bydd yn holliach ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr ar 26 Mawrth.
 |