Campau Caerdydd yn cysgodi Cymru...a beth nesaf i'r Rhyl?
Mae yna gryn dipyn o brysurdeb wedi bod yr wythnos yma gyda'r paratoadau ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn Blackpool yn Wembley.
Mae o'n deimlad od ymwneud cymaint â'r achlysur yma oherwydd fel arfer paratoi buaswn i ar gyfer mynd i Groatia gyda Chymru ar gyfer y gêm gyfeillgar. Ar hyn o bryd, mae fel pe bai Caerdydd yn llenwi'r bwlch wedi ei adael gan y tîm cenedlaethol o ran llwyddiant a sylw.
Yn y gorffennol, mi roedd Sam Hamman, y cyn-berchennog, yn chwarae ar y ffaith fod Caerdydd yn glwb o Gymru yn chwarae yng nghynghrair Lloegr. Chwarae hynny i lawr oeddwn i'n teimlo gwnaeth Peter Ridsdale, olynydd Hammam, a'r rheolwr Dave Jones ar y cychwyn.
Ond does dim dwywaith iddyn nhw chwarae ar hynny hefyd erbyn y gemau ail-gyfle yn erbyn Caerlŷr, yn sicr yn yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd a'r rheolwr yn datgan fod Caerdydd yn gobeithio llwyddo ar ran Cymru gyfan.
Tra bod yr edrych ymlaen yn fawr ar gyfer y gêm yn Wembley ddydd Sadwrn, mae'n anodd dweud yr un peth am y gêm yng Nghroatia ddydd Sul.
Dwi'n amau doethineb chwarae'r gemau cyfeillgar yma ar ddiwedd y tymor, yn yr achos yma rhyw dair wythnos wedi i'r rhan fwyaf gicio pêl.
Efallai ichi gofion pan roedd Cymru ar eu gorau yn ystod teyrnasiad Mark Hughes, ar frig y grŵp yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2004, iddyn nhw deithio i'r Unol Daleithiau i chwarae gêm yn San Fransisco. Fe dynnodd 18 chwaraewr nôl o'r garfan. Digon tebyg mae hi y tro yma hefyd.
Un peth sydd yn anodd ei ddeall yw pam fod cymaint o chwaraewyr ddim ar gael oherwydd anafiadau pan nad ydyn nhw wedi chwarae am dair wythnos a mwy. Dyna pam mae'n bwysig, beth bynnag ydi'r berthynas rhwng y rheolwr John Toshack a Craig Bellamy, fod y problemau yn cael eu goresgyn.
Unwaith eto, tra bod chwaraewyr sydd yn dal i brofi eu hunain ar lefel rhyngwladol yn datgan nad ydyn nhw ar gael, mae blaenwr Manchester City yn barod i fod ar flaen y gad yng Nghroatia. Dyna'r un math o agwedd dangoswyd gan is-reolwr Cymru, Dean Saunders. Doedd dim ots ble, pryd nac yn erbyn pwy roedd Cymru yn chwarae, roedd Dean yno. Yn teithio i'w wylio ymhob man hefyd roedd ei fam a'i dad.
Ac eto yng nghanol y bwrlwm yma roedd yna stori fawr arall imi yn hawlio sylw, sef y ffaith na fydd y Rhyl yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf.
Mae'n hysbys fod Rhyl wedi wynebu problemau ariannol ac mae'n siŵr fod hynny yn ffaith yn y penderfyniad. Ond - ac mae o'n "ond" mawr - mae gan y cynghrair cenedlaethol broblem fawr wrth geisio denu diddordeb a chefnogaeth.
Imi mae Rhyl yn glwb pêl-droed go iawn. Hynny yw, o ran adnoddau, maes pêl-droed go iawn a chefnogaeth gadarn.
Yn y flwyddyn olaf pan roedd gan BBC Cymru yr hawliau i ddangos y gynghrair ar y teledu, mi rydw i'n cofio'r gêm yn erbyn TNS i benderfynu'r bencampwriaeth yn Belle Vue. Roedd yna 2,500 o gefnogwyr yn y gêm a miloedd yn gwylio ar y teledu. Pan sicrhawyd y bencampwriaeth ar Y Traeth yn erbyn Porthmadog, roedd cannoedd o gefnogwyr y Rhyl yno yn ei du a gwyn yn gwneud achlysur go iawn o'r prynhawn.
Ar y teledu, er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, mae angen gwneud i'r gêm edrych fel achlysur, fod cefnogaeth a diddordeb. Mi fyddai Rhyl yn erbyn Bangor, y gêm ar Ffordd Farrar a'r gemau yn erbyn Prestatyn yn wych i deledu.
Beth bynnag ydi'r rhesymau, mae o'n drueni mawr nad yw'r Rhyl yn y gynghrair newydd yma, na chwaith fod yna gynrychiolaeth o ardal Caerdydd a Gwent.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Blog da iawn! Cytuno fod ymroddiad chwaraewyr Cymru yn sal ambell waith!
C'MON CAERDYDD :)