| Sgoriodd Dean Keates gydag wyth munud yn weddill i achub y Dreigiau gan sicrhau pwynt pwysig yn y ras i gyrraedd gemau ail-gyfle'r gyngres. Mae Wrecsam yn bedwerydd yn Uwchgynghrair Blue Square Bet wedi'r gêm gyfartal 1-1 yn Tamworth. "'Dwi'n falch ein bod wedi cael pwynt - mae'n bosib y bydd hi'n bwynt da i ni yn y pendraw," meddai Saunders. "Mi fydden ni wedi colli'r gêm yna'r llynedd. Roedd y chwaraewyr yn sylweddoli pwysigrwydd y gêm. "Ro ni'n meddwl bod Tamworth yn ardderchog. Os ydyn nhw'n chwarae fel yna 'da chi'n synnu pam eu bod nhw tua gwaelodion y gynghrair. "'Da ni'n chwarae yn erbyn timau tua'r gwaelodion sydd yn brwydro am eu bywydau."
 |