BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 28 Mawrth 2011

Saunders wedi ei rwystro rhag cryfhau'r garfan

Mae Dean Saunders wedi datgelu nad yw'n gallu cryfhau carfan Wrecsam oherwydd embargo ar arwyddo chwaraewyr.

Dean Saunders
Ar ôl trechu Casnewydd o 1-0 ddydd Sul, mae'r Dreigiau yn bedwerydd yn Uwchgyngynghrair Blue Square Bet ac yn gobeithio am le yn y gemau ail-gyfle.

"Ni allem arwyddo chwaraewyr nes ein bod wedi talu rhai biliau, felly mae fy nwylo wedi eu clymu ar y foment," meddai Saunders.

"Mae pawb arall lan tua'r brig yn cryfhau, ond ni fyddwn yn gwneud ac mae hynny yn creu dipyn o broblem i mi."

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam eisiau prynu'r clwb ac wedi ymuno gyda'r wraig fusnes lleol Stephanie Booth i wneud cais.

Mae'r cyfarwyddwyr presennol wedi gwadu honiadau gan Mrs Booth bod y clwb ar fin mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Ac o ganlyniad mae'r clwb wedi dod a thrafodaethau gyda Mrs Booth ynglyn a phrynu'r clwb i ben am y tro.

Ychwanegodd Saunders nad oedd y "syrcas" yn ymwneud a pherchnogaeth y clwb yn ei effeithio ond bod y cyfyngiadau trosglwyddo yn ergyd.

"Mae'n broblem," meddai Saunders. "'Dwi'n meddwl y dylen ni fod yn cryfhau'r tîm oherwydd ein bod mewn safle.

"Dyma'r amser y gallen wario ychydig o bres oherwydd os gwnawn ni sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle yna bydd hynny'n denu torfeydd mawr ac yn talu cyflogau'r chwaraewyr."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy