BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 17 Mai 2010

Dau arall yn dewis peidio â theithio i Groatia

Bydd amddiffynnwr Aston Villa James Collins a chwaraewr canol cae Fulham Simon Davies yn colli gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Croatia ddydd Sul.

Simon Davies

Mae Collins eisiau aros adref er mwyn bod gyda'i wraig feichiog, ac mae Davies yn awyddus i orffwys yn dilyn anaf i'w droed.

Mae pum chwaraewr bellach wedi tynnu allan o'r garfan wreiddiol a gafodd ei gyhoeddi gan y rheolwr John Toshack.

Danny Gabbidon, David Cotterill ac Andy King oedd cyntaf i siomi Toshack.

Bydd y rheolwr yn ychwanegu at y garfan ddydd Mawrth, gan ychwanegu ambell un o'r garfan dan21 sy'n chwarae yn erbyn Awstria y diwrnod hwnnw.

Yr oedd Cymru eisoes yn gorfod gwneud heb Aaron Ramsey, Jack Collison, Gareth Bale a Joe Allen oherwydd anafiadau.

Ac fe fydd Joe Ledley o Gaerdydd a David Vaughan a Neal Eardley o Blackpool yn colli allan er mwyn chwarae yn rownd derfynol gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth.


Carfan Cymru:
Golwyr: Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Boaz Myhill (HullCity)
Amddiffynwyr: Chris Gunter (Nottignham Forest), Craig Morgan (Peterborough United), Lewin Nyatanga (Bristol City), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe)
Canol cae: Andrew Crofts (Brighton & Hove Albrion), Andy Dorman (St Mirren), David Edwards (Wolverhamton Wanderers), Brian Stock (Doncaster Rovers)
Ymosodwyr: Craig Bellamy (Manchester City), Simon Church (Reading), Robert Earnshaw (Nottingham Forest), Ched Evans (Sheffield United), Sam Vokes (Wolverhamton Wanderers)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy