Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Y gwir plaen yw - doedd Caerdydd ddim digon da

Ian Gwyn Hughes|12:10, Dydd Mercher, 26 Mai 2010

cardiff_fans_huw466.jpgYn naturiol roedd yna siom aruthrol ymhlith cefnogwyr Caerdydd wedi'r chwiban olaf yn Wembley ddydd Sadwrn. Fe ddaeth Caerdydd o fewn trwch blewyn i gyrraedd y Uwchgyngrhair Lloegr a'r cyfle i chwarae yn erbyn timau fel Manchester United, Arsenal, Chelsea a thrwy hynny gweld eu problemau ariannol yn diflannu - yn y tymor byr o leiaf.

Ond y gwir plaen amdani, ar y dydd doedd Caerdydd ddim digon da. Roedd yr hanner cyntaf o ran cyffro yn wefreiddiol, y 45 munud mwyaf cyffrous i mi ei weld ers tro byd. Ond gyda 'r goliau sgoriodd Blackpool amlygwyd gwendidau Caerdydd. Pan weles i Blackpool yn curo Abertawe 5-0 'nol ym mis Mawrth roedd gen i deimlad ar y pryd y byddai tîm Ian Holloway yn cyrraedd y gemau ail gyfle - ond doeddwn ni ddim yn rhagweld y bydden nhw'n llwyddo i ennill dyrchafiad.

Beth fyddai llwyddiant wedi ei olygu? Wel roedd 40,000 o gefnogwyr Caerdydd yn Wembley Ddydd Sadwrn. Yn y dyddiau cyn y gêm fe drodd y ddinas yn fôr o glas a gwyn. Roedd miloedd ar filoedd yn gwylio'r gêm fawr ar sgriniau teledu mewn digwyddiadau ar hyd a lled Caerdydd. Mewn cystadleuaeth rygbi saith bob ochr ar gyrion Caerdydd roedd bron pawb yno, boed yn gefnogwyr o'r gêm yn gwisgo crysau Caerdydd ac yn ymwybodol o'r hyn oedd yn y fantol.

Beth bynnag mae llawer am i chi gredu ynglŷn â rygbi fel gem y Cymry doedd na fawr o ymwybyddiaeth fod tîm rygbi'r Gleision yn chwarae yn rownd derfynol y Cwpan Amlin yn Marseilles Ddydd Sul.

Beth fydd yn digwydd nesaf? Mae yna berchnogion newydd, mae yna alw i Dave Jones aros fel rheolwr ac i chwaraewyr fel Michael Chopra, Joe Ledley, Peter Whittingham a Jay Bothroyd i aros hefyd. Ond mae yna ochr arall i'r geiniog. Methu oedd hanes Caerdydd. Fe gollon nhw yn erbyn tîm gostiodd llai na £1m. Fe gollon nhw yn erbyn tîm o dan reolwr brofodd yn drech na Dave Jones o ran tactegau. Mae Jones wedi bod wrth y llyw am bum mlynedd - Holloway am dymor yn unig yn Bloomfield Road. Os edrychwch chi ar brofiad dimau fel Bristol City a Sheffield United sydd fel Caerdydd wedi colli yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth, siomedig ar y naw oedd y tymor canlynol ar ôl iddyn nhw gadw ffydd gyda'u chwaraewyr a'r rheolwr.


Wrth wylio Cymru yng Nghroatia nos Sul roedd yna deimlad eilradd ynglŷn ar holl beth. Efallai fy mod i yn anghywir ond fel yna roeddwn ni yn teimlo. Roedd yn siom aruthrol i John Toshack i weld cyn lleied o chwaraewyr yn barod i fod yn rhan o'r gêm baratoi ar gyfer ymweld â Montenegro yn y tymor newydd. Wedi pum mlynedd wrth y llyw does dim digon o ysbryd wedi ei fagu yn y garfan i sicrhau bod yn chwaraewyr yn edrych ymlaen at ddod at ei gilydd er mwyn cynrychioli eu gwlad. O leiaf fe gafodd Neil Taylor a Mark Bradley y fraint o wisgo'r crys. Ond mae Taylor wedi bod yn chwarae i dîm orffennodd hanner ffordd yn y Gyngres ac mi gafodd Bradley ei ryddhau gan Walsall ar ddiwedd y tymor. Pa fath o baratoad yw hynny?

Un gêm sydd gan Toshack cyn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewrop a'r gêm honno gartref yn erbyn Lwcsembwrg. Go brin y bydd honno yn cydio yn nychymyg y cefnogwyr. Gan roi'r canlyniad yn Wembley o'r neilltu - oedd - mi roedd hi'n benwythnos ffantastig i Gaerdydd o ran diddordeb, o ran cyffro ac o ran y gefnogaeth. Trueni mawr nad yw'r un peth yn wit pan mae'r tîm cenedlaethol yn chwarae.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:11 ar 27 Mai 2010, Aled Williams ysgrifennodd:

    Cytuno'n llwyr! Dydy chwaraewyr Cymru ddim yn gweld hi'n fraint o wisgo'r crys coch rhagor dimond gem ychwanegol i dderbyn mwy o arain a falle chwarae er mwyn codi ffitrwydd os nad ydynt yn chwarae'n gyson i'w clybiau. Dydy hyn ddim digon da, mae chwaraewyr Cymru yn neido ar y cyfle i chwarae rygbi dros Gymru, trienu nad yw hyn yr un peth ym mheldroed.

    Efallai peth or broblem yw y ffaith fod llawer o chwaraewyr dimond yn chwarae dros Gymru achos dydnt ddim digon da i chwarae i Loegr. Mae llawer o chwarewyr Cymru dimond yn chwarae peldroed rhyngwladol oherwydd bod ei Mamgu neu Tad-cu yn dod o Gymru, felly maen siwr fod rhain ddim yn cael yr un fraint o chwarae droes ei gwlad manwysiedig yn ogystal ai mam wlad. Ond yn dweud hynny mae peth or chwaraewyr yma yn rhoi ei calonnau at chwarae i Gymru a na fyddai tim gyda Cymru oni bai am peth ort chwaraewyre hyn gan mae dimond 2 neu 3 chwaraewr yn y tim erbyn Croatio oedd wedi cael ei eni yng Nghymru.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.