Mae'r chwaraewr 24 mlwydd oed, sydd wedi ennill 31 cap i Hwngari, wedi sgorio saith gôl i'r Tractor Boys y tymor yma. Daeth tymor fwyaf llwyddiannus Priskin o ran goliau yn 2008/09 pan rwydodd 14 gwaith i Watford. Rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, oedd wrth y llyw gyda'r Hornets bryd hynny. Ychwanegodd yr Elyrch at eu hopsiynau ymosodol yr wythnos diwethaf drwy arwyddo Fabio Borini ar fenthyg o Chelsea. Sgoriodd yr Eidalwr ddwywaith yn ei gêm gyntaf i Abertawe ddydd Sadwrn yn y fuddugoliaeth o 3-2 yn erbyn Nottingham Forest.
 |