BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 19 Mawrth 2011

Abertawe 3-2 Nottingham Forest

Sgoriodd Fabio Borini ddwywaith yn ei gêm gyntaf wrth i Abertawe sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf mewn pedair gêm.

Fabio Borini yn dathlu ar ôl sgorio ei gôl gyntaf

Scott Sinclair sgoriodd gôl gyntaf y Swans wedi 21 munud gan gwblhau rhediad unigol gwych cyn canfod cornel isaf y rhwyd.

O fewn pum munud roedd y tîm cartref wedi dyblu eu mantais gyda'r Eidalwr Borini, sydd ar fenthyg o Chelsea, yn rhwydo gyda'i ail ergyd.

Doedd Forest ddim allan ohoni fodd bynnag a cyn yr egwyl fe sgoriodd Kris Boyd i gau'r bwlch ar ôl derbyn y bas gan Nathan Tyson.

Abertawe oedd yn feistri ar y gêm ac fe ddaeth y drydedd gôl wedi 56 munud gyda Borini yn sgorio ar ôl i'r golwr Lee Camp flocio ergyd Sinclair gyda'i goesau.

Fe ddaeth Abertawe dan warchae yn ystod yr amser ychwanegwyd ar gyfer anafiadau ar ddiwedd y gêm gyda Paul Anderson sgorio gôl gysur i dîm Billy Davies.

Ac fe welodd Anderson, dreuliodd gyfnod ar fenthyg gydag Abertawe, ei beniad yn taro'r postyn yn yr eiliadau olaf.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe o fewn pwynt i'r tîm yn yr ail safle, Norwich, sicrhaodd gêm gyfartal yn Hull.


Abertawe: De Vries, Rangel (Monk 77), Williams, Tate, Taylor, Dyer (Van der Gun 88), Allen, Gower, Sinclair, Dobbie (Britton 69), Borini.
Eilyddion: Ma-Kalambay, Pratley, Orlandi, Moore.

Goliau: Sinclair 21, Borini 26, 56.

Nottingham Forest: Camp, Gunter, Chambers, Morgan, Konchesky (Bennett 77), Anderson, McKenna, Majewski (McCleary 46), Cohen, Tyson, Boyd (McGoldrick 63).
Eilyddion: Darlow, McGugan, Adebola, Moloney.

Cerdyn melyn: Anderson, Konchesky, Cohen.

Goliau: Boyd 44, Anderson 90.

Torf: 18,371

Dyfarnwr: Scott Mathieson (Sir Gaer).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy