Roedd ei gytundeb gwreiddiol gyda Pompey yn rhedeg tan y gêm yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn, ond mae'r ddau glwb wedi cytuno i'w ymestyn am naw gêm arall. Ond ni fydd yr asgellwr 23 mlwydd oed yn gymwys i chwarae yn erbyn Abertawe yn y gêm rhwng y ddau glwb ar 23 Ebrill. Mae Cotterill wedi chwarae saith gêm i Portsmouth ers symud i Fratton Park, gan helpu'r clwb i gipio 16 pwynt allan 21 posib. Ymunodd gyda'r Elyrch ym mis Ionawr 2010 am £600,000, a chwaraeodd yn rheolaidd o dan y cyn-reolwr Paulo Sousa. Ond mae Cotterill wedi methu sicrhau ei le yn y tîm y tymor yma wrth Scott Sinclair a Nathan Dyer hawlio'r safleoedd ar yr esgyll.
 |