BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 17 Mawrth 2011

Abertawe yn denu Borini o Chelsea

Mae Abertawe wedi arwyddo ymosodwr Chelsea Fabio Borini ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Fabio Borini

Nid yw'r Eidalwr 19 mlwydd oed wedi chwarae i dîm cyntaf Chelsea y tymor yma, ond chwaraeodd wyth gwaith y tymor diwethaf. Ei ymddangosiad olaf oedd y fuddugoliaeth yn erbyn Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr ym mis Chwefror 2011.

Bydd Borini, sydd wedi chwarae i dîm dan21 yr Eidal, yn cystadlu yn erbyn Luke Moore, Craig Beattie a Stephen Dobbie am le yn llinell flaen Abertawe.

Dyma'r ail waith y tymor yma i Rodgers fynd at ei gyn-glwb i arwyddo chwaraewr ar ôl perswadio Scott Sinclair i symud i dde Cymru ym mis Awst.

Mae'r goliau wedi sychu i fyny rhyw ychydig i'r Elyrch yn ddiweddar a hwythau wedi sgorio dwy gôl yn unig yn eu tair gêm ddiwethaf.

Ond mae tîm Brendan Rodgers yn parhau mewn sefyllfa gref i ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair gyda naw gêm i fynd.

Trydydd yn y tabl yw safle'r Elyrch ar hyn o bryd, tri phwynt tu ôl i'r tîm yn yr ail safle, sef Norwich City.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy