| Chwaraeodd Monk ac Andrea Orlandi i ail dîm y Swans yn erbyn Plymouth brynhawn Mawrth. Roedd y ddau yn dychwelyd wedi anafiadau gyda Monk yn cwblhau'r 90 munud ac Orlandi ar y maes am 75 munud. Nid yw Monk wedi chwarae i dîm cyntaf Abertawe ers dioddef anaf i'w ben-glin yn erbyn Colchester yng Nghwpan FA Lloegr ym mis Ionawr. Ar y pryd roedd hi'n ymddangos y byddai'r amddiffynnwr allan am dri mis ond mae wedi gwella o'r anaf yn gynt na'r disgwyl. Dioddefodd Orlandi anaf i'w goes yn ystod gêm y Swans yn erbyn Leyton Orient ym mis Ionawr.
 |