Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ar eu ffordd i Wembley

Ian Gwyn Hughes|16:22, Dydd Iau, 13 Mai 2010

Wel dyna beth oedd noson yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd yna ddrama anhygoel nos Fawrth pan enillodd Blackpool yn Nottingham Forest. Ond roedd yr hyn ddigwyddodd rhwng Caerdydd a Chaerlŷr yn hyd yn oed yn fwy dramatig.

Pan sgoriodd y Cymro Andy King i Gaerlŷr i'w gwneud hi yn dair i un roeddwn ni'n teimlo fod tîm Nigel Pearson ar eu ffordd i Wembley.

caerdydd.jpg

Roedd y cyffro'n wefreiddiol yn ystod y ciciau o'r smotyn a tybed beth ddywedodd y rheolwr wrth Yann Kermorgant pan fethodd o gyda chic hynod o wael wrth geisio bod yn rhy glyfar.

Yna fe arbedodd David Marshall y gic gan Martyn Waghorn ac roedd Caerdydd ar eu ffordd i Wembley.

'Dwi'n gwybod nad yw pawb yn gefnogwyr o'r gemau ail-gyfle ond go brin fod cefnogwyr Caerdydd a Blackpool yn cwyno ar hyn o bryd.

Yn awr fe fydd y sylw yn troi tuag at Wembley a'r rownd derfynol a 90 munud fydd, yn ôl Dave Jones, yn gallu trawsnewid bywyd clwb yn ariannol ac o ran y sylw sydd yn cael ei roi yn yr Uwch Gyngrhair.

Chwe mil ar hugain oedd yno nos Fercher ac roedd y stadiwm dan ei sang a phe bai Caerdydd yn cyrraedd yr Uwch Gyngrhair yna does dim rheswm pam na fydd hi fel yna yn y stadiwm bob wythnos.

Ond nid ar chwarae bach y bydd curo Blackpool.

O dan Ian Holloway - un o wir gymeriadau'r gêm - maen nhw wed cael tymor arbennig. Ar gyfartaledd ryw 8,500 sydd yn eu gwylio yn Bloomfield Road ac mae eu llwyddiant yn rhoi gobaith i bob clwb bach.

Mae ganddyn nhw chwaraewyr talentog fel Charlie Adam a'r Cymro David Vaughan a dau chwaraewr ar fenthyg - Stephen Dobbie, ar fenthyg o Abertawe a DJ Campbell ar fenthyg o Gaerlŷr - sgoriodd y goliau yn erbyn Nottingham Forest yn y rownd gyn derfynol.

Felly'r wythnos nesaf mi fydd bron i 40,000 o gefnogwyr Caerdydd yn teithio i lawr i Wembley.

Mewn ffordd mae llwyddiant Caerdydd yn llenwi'r bwlch sydd wedi ei adael gan ddiffyg llwyddiant y tîm cenedlaethol, fydd yr un penwythnos yn chwarae oddi cartref yn Croatia ar y Sul ond dim yn denu hanner cymaint o sylw.

A son am sylw, 'dwi'n credu fod y ffaith mai ychydig mwy na 1,000 oedd ym Mharc y Scarlets i wylio Bangor a Port Talbot yn profi pwynt ynglŷn â diffyg cyhoeddusrwydd ynglŷn â'r gêm.

Mae hyn yn broblem cyffredinol. 'Dwi'n gwybod fod timau fel Caerdydd, Abertawe, Wrecsam ac yn y blaen yn chwarae yn Lloegr a 'dwi'n gwybod mai rownd derfynol Cwpan Cymru oedd dan sylw ond pan mae clwb fel Merthyr yn penderfynu fod yn well ganddyn nhw chwarae mewn cynghrair lle nad oes llumanwyr yna mae yna broblemau mawr yn wynebu delwedd ein cynghrair cenedlaethol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:37 ar 13 Mai 2010, Huw Jones ysgrifennodd:

    Rhyfedd o fyd pan fod gohebydd peldroed BBC Cymru yn cwyno am ddiffyg sylw y gynghrair genedlaethol. Ydi Ian Gwyn Huws yn sylwi cyn lleied o sylw gafwyd gan y BBC am Gwpan Cymru ar Radio Cymru ac ar lein?

  • 2. Am 22:53 ar 13 Mai 2010, Rhys ysgrifennodd:

    Dw i'n ystyried fy hun yn dipyn o ffan y tîm cenedlaethol (yn cesio mynychu po gêm cartref), ond petai cydweithiwr newydd sôn am gêm Croatia wrtha i, fyddwn i wedi llwyr fethu'r gêm.

    O ran rownd derfynol Cwpan Cymru, dw i'n un o'r pobl hyn sy'n deud mod i eisiau i'r gwapn a'r gynghrair lwyddo, ond sydd byth yn mynychu gêm.

    Wedi deud hynny, dw in gwylio'r ffeinal pob blwyddyn ar y teledu. Roedd hi'n biti garw bod torf mor fach. Efallai mai cosb am amweddau'r gorffenol yw gwenud i gefnogwyr Bangor deithio i Lanelli dwy dymor yn olynol, ond tydi o wir ddim yn deg. Y broblem yw maint ein meysydd ni - mae'r Cae Ras, Liberty a Stadiwm Caerdydd (a Parc y Scarlets) lot rhy fawr ac wedyn tydy diogelwch (neu 'cadw trefn') ddim mor hawdd yn y meysydd llai. Byddai'n cymryd tipyn o fuddsoddiad, ond efallai dylid anelu i gael rhywdwaith o ryw 3 neu maes gyda 2,000 - 3,000 o seddi wedi eu lleoli'n strategol ar draws y wlad, unai ar gyfer y clybiau (Yn Aberystwyth, Bangor, Merthyr a Rhyl/Bae Colwyn) y gelli'r gwendu defnydd helaeht ohonynt ar gyfer gemau cwpan niwtral a gemau Dan 21 neu gemau cyfeillgar annfasiynol y tîm cenedlaethol.

  • 3. Am 11:34 ar 14 Mai 2010, Ian Gwyn HughesAuthor Profile Page ysgrifennodd:

    ‘Dw i’n cytuno gyda sylwadau Rhys. Yr hyn sydd yn bwysig ydi creu delwedd bositif, fod y gêm yn ffynnu, fod yna ddiddordeb.
    Yn yr oes sydd ohoni mae yna gymaint o gystadleuaeth i ddenu y to ifanc mae angen creu achlysur. A dydw i ddim yn teimlo ar hyn o bryd fod gemau rhyngwladol yn achlysur bellach. Y gefnogaeth yn fach, y meysydd yn wag. Mae hynny wrth gwrs oherwydd canlyniadau siomedig ac mi fyddai pethau yn newid o fewn dim pe bai'r canlyniadau yn gwella.
    Faint sydd yn gwybod fod Cymru yn chwarae yn Croatia yr wythnos nesaf? Faint fydd y sylw rŵan fod Caerdydd yn Wembley?
    Roedd nos Fercher yn y stadiwm yng Nghaerdydd yn fendigedig. Awyrgylch anhygoel, y maes dan ei sang, baneri Caerdydd, baneri Cymru a fel yna y dylai hi fod pan mae'r tîm cenedlaethol yn chwarae. Ar hyn o bryd dwi'n teimlo fod Caerdydd ac i raddau llai, Abertawe yn llenwi'r bwlch sydd wedi ei adael gan ddiffyg llwyddiant tîm pêl-droed Cymru.
    Gadewch inni ystyried y ffaith ar ddechrau'r tymor nesaf, Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair a gêm i ddod yn erbyn Arsenal, Chelsea neu Manchester United ym mis Awst. Gan gofio fod arian yn brin, mae Cymru yn chwarae Lwcsembwrg mewn gêm gyfeillgar. Lle fydd y sylw, lle fydd y diddordeb, pwy fydd pobl am eu gweld?

  • 4. Am 11:52 ar 14 Mai 2010, Ian Gwyn HughesAuthor Profile Page ysgrifennodd:

    O ran Cwpan Cymru, yn anffodus ‘dwi o'r farn fod y rownd derfynol yn syrthio rhwng dwy stôl. Ceisio creu achlysur ar faes safonol ond yn colli'r naws gan fod y gefnogaeth mor wael.
    Yn fy marn i, a fy marn i yn unig ydi hyn, ond mi rydan ni mewn safle unigryw yma yng Nghymru ac mi fydd hi yn anodd i'n Cwpan a'n Cynghrair Cenedlaethol ddenu y sylw y dylai gael tra fod y clybiau mawr yng Nghymru yn chwarae yn Lloegr.
    Dychmygwch faint o sylw fyddai i La Liga heb Barcelona a Real Madrid, i Serie A heb Inter ac AC Milan.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.