Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Methiant neu lwyddiant?

Glyn Griffiths|11:40, Dydd Llun, 10 Mai 2010

Mewn cyfweliad papur newydd dros y penwythnos, mynegodd Paulo Sousa, rheolwr Abertawe, mai anafiadau yn ystod mis Ionawr ynghyd a diffyg arian i brynu chwaraewyr newydd, oedd yn bennaf gyfrifol am fethiant y Swans o ennill eu lle yn y gemau ail-gyfle.

Ategodd hefyd mai cadw Abertawe yn y Bencampwriaeth oedd y nod, a roddwyd iddo gan y clwb wedi iddo ymuno yn ystod yr Haf o ystyried fod y cyn rheolwr, Roberto Martinez, ynghyd â hyfforddwyr a dau chwaraewr allweddol, Jason Scotland a Jordi Gomez, wedi dilyn Martinez i Wigan.

Yng nghyd-destun y sefyllfa yma a etifeddwyd, credai Sousa fod gorffen yn y seithfed safle wedi bod yn gyflawniad ffantastig!

Cafodd Sousa , gyda llaw, ei ddisgrifio fel un o reolwyr ifanc mwyaf disglair Ewrop yn yr erthygl.

Tybed faint o ddarllenwyr sydd yn cytuno a'r farn yna, boed hynny ynglŷn â gallu Sousa neu gyflawniadau Abertawe?

Byddai clywed eich barn chi yn ddiddorol.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.