Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Gêm olaf yn crynhoi tymor Abertawe

Ian Gwyn Hughes|17:34, Dydd Llun, 3 Mai 2010

trundle_trist.jpgPan drawodd Lee Trundle y bel i gefn y rhwyd heibio Ben Smith yn y gôl i Doncaster Ddydd Sul mi roeddwn ni yn meddwl fod yna ddiweddglo dramatig i'r prynhawn yn y Liberty.

Trundle, y chwaraewr sydd yn arwr gyda'r cefnogwyr ar fenthyg o Bristol City yn sgorio'r gôl yn y ffordd fwyaf dramatig posib i gymryd tîm Paolo Sousa i'r gemau ail gyfle.

Yn anffodus doeddwn ni a llawer arall yn y stadiwm ddim wedi sylwi fod Trundle wedi llawio'r bel. Hyn i gyd funud neu ddau wedi iddi ymddangos fod Sam Hird wedi ildio cic o'r smotyn wedi trosedd ar Craig Beattie.

Dyna i chi awr a hanner sy'n crynhoi tymor yr Elyrch. Digon o feddiant, yn creu cyfleon, yn eu methu a phenderfyniadau dadleuol yn mynd yn eu herbyn.

Dyna chi'r gêm yn Nottingham Forest, yn Plymouth a gartref yn erbyn West Browmich Albion. Maen nhw'n dweud fod lwc neu anlwc yn gyfartal mewn tymor. Ond dw i'n amau fod hynny yn wir cyn belled a bod Abertawe yn y cwestiwn. Mae'n anodd cofio penderfyniad mawr dadleuol aeth o'u plaid.

Ond dyna ni. Tymor arall yn y Bencampwriaeth wedi iddyn nhw edrych yn sicr o le yn y gemau ail gyfle chwe wythnos yn ôl .

Beth fydd yn digwydd nesaf felly? Beth fydd y dyfodol i rai o'r chwaraewyr? Mi rydan ni yn son am Ashley Williams, Leon Britton, Darren Pratley ac un neu ddau arall.

Mae gan y cyn rheolwr Roberto Martinez feddwl uchel o Williams a Britton ond a fydd o yn cael sêl bendith ei gadeirydd i geisio eu prynu wedi i Jordi Gomez a Jason Scotland fethu a chreu argraff yn yr Uwchgyngrhair y tymor yma.Yn wir beth fydd dyfodol y rheolwr ei hun?

Mae o'n uchelgeisiol, mae o ar dan i reoli ar y lefel uchaf posib a does dim dwywaith iddo deimlo rhwystredigaeth yn yr wythnosau diwethaf ai fod o yn teimlo fod angen mwy o fuddsoddiad yn y clwb.

Ond man un peth yn sicr. Fydd yna ddim elfen o banig ar ran y cyfarwyddwyr. Wedi'r cyfan, unwaith fydd y teimlad o siom wedi diflannu mae Abertawe wedi cael tymor da, yn gorffen yn uwch na'r tymor diwethaf ac wedi bod ymysg y ceffylau blaen am ran fwyaf o'r tymor a hynny wedi'r ergyd o golli Martinez i staff a chwaraewyr allweddol.

Mae'r cadeirydd Huw Jenkins a'r cyfarwyddwyr eraill yn cofio'n dda'r hyn ddigwyddodd i'r clwb yn y gorffennol gyda'u problemau ariannol a dydyn nhw ddim am weld hanes yn cael ei ail adrodd.

Mi fydd y sylw yn naturiol yn troi tuag at Gaerdydd a'r gemau ail gyfle ond mi fydd digon yn digwydd yn Abertawe hefyd gyda'r rheolwr yn cyfarfod gyda'r bwrdd a Sousa ei hun yn cyfarfod a'r chwaraewyr ddydd Mercher a Dydd Iau. Dw i'n rhagweld y bydd yna dipyn o fynd a dod dros yr wythnosau nesaf.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:51 ar 4 Mai 2010, Josgin ysgrifennodd:

    Fe wnaeth Bangor ennill cwpan Cymru Ian.
    Ennill cwpan Cymru , nid 7fed yn ail adran Lloegr.
    Cymru , Ian , Cymru.
    Oeddet ti yno ?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.