Yn draddodiadol, mi roedd Sadwrn cyntaf y flwyddyn newydd yn un anferth yn y calendr pêl-droed, sef trydedd rownd Cwpan FA Lloegr.
Mawr oedd yr edrych ymlaen at y diwrnod yma pan roedd Dafydd yn herio Goleiath.
Dros y blynyddoedd bu sawl sioc ymysg y sawl imi eu cofio - Colchester United yn curo'r anfarwol Leeds United o 3-2 gyda chyn-flaenwr Lloegr Ray Crawford yn sgorio ddwywaith a Gary Sprake, y Cymro, yn y gôl i Leeds.
Dyna chi Henffordd, oedd y tu allan i Gynghrair Lloegr ar y pryd, yn curo Newcastle United yn Edgar Street o 2-1 gyda Colin Addison yn chwaraewr-reolwr.
Beth am Bournemouth yn curo Manchester United yn Dean Court ac Ian Thompson yn sgorio? Fe aeth Thompson ymlaen i gael gyrfa fel athro a chwarae pêl-droed i Ferthyr.
A phwy fydd byth yn anghofio goliau Mickey Thomas a Steve Watkin i Wrecsam ar y Cae Ras wrth i dîm Brian Flynn guro Arsenal?
Ond i lawer mae 'r dyddiau yna wedi hen fynd. Y flaenoriaeth i lawer bellach yw'r gwobrau ariannol ar gael wrth aros yn yr Uwch Gynghrair neu i chwarae yng Nghwpan y Pencampwyr yn hytrach na diwrnod allan yn Wembley yn rownd derfynol Cwpan Lloegr.
Ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu pnawn Sadwrn, yn ôl rhai, ar ddiwrnod y drydedd rownd.
Roedd y torfeydd yn isel, doedd yna ddim sioc wirioneddol. Yr agosaf oedd yn Reading wrth i Lerpwl gael gêm gyfartal. Ond y ffordd mae Lerpwl yn chwarae doedd hynny ddim mor annisgwyl â hynny.
Isel ar y naw oedd y torfeydd yn gyffredinol - llai na 6,000 yn Wigan i wylio tîm Roberto Martinez yn curo Hull, a 12,000 yn unig yn y Riverside wrth i Manchester City guro Middlesbrough.
Roeddwn i yn y Walkers Stadium yn gwylio Caerlŷr ac Abertawe. Doedd y dorf yno ddim mor uchel ag arfer ond wedi dweud hynny roedd cefnogwyr Abertawe wedi teithio yno yn eu niferoedd a llenwi un rhan o'r maes.
Wrth gwrs roedd y ddadl wedi newid rhywfaint ar ôl i Leeds United ennill yn Old Trafford a churo Manchester United Ddydd Sul. Sioc go iawn, ac os nad oedd United ar eu cryfaf roedd y tîm yn cynnwys chwaraewyr sydd yn cael eu hystyried yn ddigon da i wisgo crys coch y clwb enwog.
Efallai nad yw'r gystadleuaeth mor atyniadol i rai o'r clybiau mawr bellach ond dim ond pedwar sydd yn gallu chwarae yng Nghwpan y Pencampwyr, a rhyw chwech a bod yn onest sydd â chyfle go iawn o wneud hynny.
Mae hynny'n gadael 86 o glybiau eraill fyddai wrth eu bodd yn cyrraedd rownd derfynol ac yn ennill tlws. I reolwyr clybiau fel Everton, Bolton, Blackburn, Stoke, Sunderland ac yn y blaen mi fyddai ennill tlws yn hwb aruthrol. Felly hefyd i'r clwb, i'r cefnogwyr ac i'r ardal yn gyffredinol.
Mae'n hawdd i unrhyw ohebydd neu sylwebydd i drin a thrafod hyn. Mi rydan ni mewn safle breintiedig, yn cael ein talu i wylio'r gemau.
Roedd sawl un nos Sadwrn ar y radio yn lladd ar gefnogwyr Middlesbrough am beidio â bod yn bresennol yn gwylio eu tîm.
Wel ychydig cyn y Nadolig mi roeddwn ni yn y Riverside yn gwylio Middlesbrough a Chaerdydd. Cyn y gêm roedd cannoedd o deuluoedd yn gorymdeithio o gwmpas y cae. Teuluoedd y gweithwyr o Corus sydd yn colli eu swyddi yn y flwyddyn newydd yma.
Mae dur a phêl-droed wedi chwarae rhan annatod yn economi'r ardal ond pan mae rhywun yn colli ei swydd yna mae yna ddewisiadau anodd ei gwneud.
Talu biliau, prynu bwyd neu ddillad neu gwylio gêm o bêl-droed. Dyna paham roedd y dorf yn is ar y Riverside, dim byd i'w wneud â Chwpan Lloegr.