Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ydi hi ar ben ar y grefft o benio?

Glyn Griffiths|14:26, Dydd Gwener, 29 Ionawr 2010

Enillodd Wayne Rooney y gêm i Manchester United yn erbyn Manchester City efo peniad nos Fercher, ond does dim llawer o goliau yn cael eu sgorio y dyddiau yma wrth i rhywun ddeifio ymlaen a phlannu'r bêl i gefn y rhwyd a'i dalcen - y 'diving header' fel y caiff ei alw.

Pan mae goliau yn cael eu sgorio yn y modd yma, maen nhw, gan amlaf yn rhai bythgofiadwy.

Un o'r goliau orau a welodd Wembley erioed oedd peniad Keith Houchen wrth sgorio i Coventry yn Ffeinal Cwpan FA Lloegr yn 1987 yn erbyn Tottenham.

houchen.jpg

Tybed beth sy'n egluro diffyg amlygrwydd cyson y sgil yma'r dyddiau yma.

Faint o hyfforddiant ar benio yma mae chwaraewyr ifanc yn eu cael?

Pan oeddwn yn hyfforddi yn yr Unol Daleithiau, roedd y cwmni a oedd yn fy nghyflogi, wedi creu rhaglen hyfforddiant a oedd yn rhoi bore cyfan i ddysgu plant sut i benio'r bêl yn gywir.

Cawsant wybod yn ddigon buan na fyddai hyn yn digwydd, gan mai cur yn y pen yn hytrach na meistroli'r grefft o benio, a fyddai'r tebygolrwydd !

Gyda chymaint o bobol yn dod yn ymwybodol o beryglon hir dymor penio, yn enwedig i blant ifanc wrth iddynt dyfu, synnwn i ddim bod llawer o'n hyfforddwyr cyfoes yn meddwl dwywaith am hyfforddi'r gamp yma erbyn heddiw.

Ydych chi'n credu fod lle i hyfforddi penio'r bel i'r ifanc wrth iddynt dyfu i fyny, neu a ydi penio wedi dod yn gelfyddyd coll yn sgil rheolau cyfoes iechyd a diogelwch?


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.