Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Wythnos arferol arall yn hanes Caerdydd

Ian Gwyn Hughes|09:06, Dydd Gwener, 29 Ionawr 2010

Mae un peth yn wir am glwb pêl droed Caerdydd. Does yna ddim eiliad tawel i gael. Mae rhywbeth yn digwydd yna drwy'r amser a tydi'r wythnos yma ddim wedi bod yn wahanol.

Cymrwch chi nos Fawrth. Roeddwn ni ar y Liberty yn sylwebu ar Abertawe yn erbyn Coventry. Nid y gêm orau. Coventry yn hynod amddiffynnol a negyddol a thîm Paulo Sousa am unwaith ddim digon clyfar i greu agoriadau.

Ond roedd y sgôr oedd yn ein cyrraedd o Ashton Gate yn anhygoel ac yn cynyddu fesul munud bron. Roedd o'n ganlyniad penigamp. Chwech i ddim a hynny ar ben sgorio pedair yn erbyn Caerlŷr yn y cwpan. Yn y gynghrair maen nhw wedi sgorio 50 o goliau sydd yn gamp arbennig.

ridsdale.jpg

Dyna felly ddylai wedi halio'r penawdau'r bore canlynol.

Ond yn hytrach roedd y sylw i gyd ar broblemau ariannol y clwb unwaith eto a'r ffaith nad oedd yr arian a godwyd gan y cefnogwyr i ddenu chwaraewyr newydd er mwyn cryfhau'r garfan bellach ar gael i'r pwrpas hwnnw. Yn hytrach mi fyddai'n rhaid gwario'r arian ar dalu dyledion.

Dydd Iau galwyd cynhadledd ble roedd y cadeirydd Peter Ridsdale yn wynebu'r wasg a'r cyfryngau i geisio egluro'r hyn oedd wedi digwydd.

Roedd o'n ymddiheuro o waelod calon meddai am gam arwain y cefnogwyr os oedden nhw yn teimlo iddo wneud hynny. Ond mi roedd o yn parhau fel cadeirydd a phrif weithredwr, dyna oedd dymuniad perchenogion y clwb.

Yn eu barn nhw Peter Ridsdale yw'r dyn gorau o ran profiad i arwain y clwb drwy'r amser caled tymor byr yma.

Mae'n rhaid talu £2.7m i'r Swyddfa Cyllid a Threth dreth neu mi fydd y clwb yn ol yn yr Uchel Lus ar 10 Chwefror. Doedd y cadeirydd ddim am ddatgan pryd na sut y byddai'r arian yma yn cael ei dalu. Felly mae'r stori yma yn mynd i barhau a pharhau.

Daw hyn i gyd yn yr wythnos yr aeth Crystal Palace i ddwylo'r gweinyddwyr ac o ganlyniad mae'r clwb wedi colli deg pwynt. Felly yn hytrach na bod ar gyrion y gemau ail gyfle mae ganddyn nhw frwydr i aros yn y Bencampwriaeth. O bosib bydd y rheolwr Neil Warnock yn caniatáu i'r chwaraewr ifanc dawnus Victor Moses i adael.

Beth sydd yn anhygoel o ran Caerdydd, wrth edrych o'r tu allan, yw eu bod nhw wedi gwerthu chwaraewyr am filiynau o bunnau yn y gorffennol?

Dyna chi Danny Gabbidon, James Collins, Rob Earnshaw, Graham Kavanagh ac yn fwy diweddar Chris Gunter ac Aaron Ramsey.

Fe gyrhaeddon nhw rownd derfynol Cwpan Lloegr dau dymor yn ôl, maen nhw ar y teledu yn aml ac yn cael arian am hynny ac mae yna bron ar gyfartaledd 20,000 mil o gefnogwyr yn eu gwylio yn gyson. Maen nhw yn bedwerydd yn y bencampwriaeth, mae ganddyn nhw faes newydd, maes ymarfer newydd.

Yn ôl y cadeirydd yn y tymor hir mae'r dyfodol yn un llewyrchus. Yn y tymor byr? Wel mae hynny yn fater arall.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.