Tro ar fyd?
A oes tro ar fyd yn Uwchgynghrair Cymru?
Gyda mwy o sylw yn cael ei roi i sefyllfa'r Rhyl oddi ar y cae, mae timau fel Aberystwyth a Phort Talbot wedi dringo yn ddistaw gan fygwth y drefn sefydlog ar y brig.
Gwael, a dweud y lleiaf, fu canlyniadau'r Rhyl yn ddiweddar, gydag ond tair buddugoliaeth ers yr Hydref.
Ar y llaw arall, mae rhediad Port Talbot, wedi eu gweld yn colli ond un waith dros yr un cyfnod, ac Aberystwyth, ers penodi Alan Morgan fel rheolwr, wedi dringo i fod ymysg y tri uchaf erbyn canol Ionawr.
Ar y brig, mae'r Seintiau Newydd yn dangos cysondeb ac ond wedi colli unwaith , a hynny i Bort Talbot ers dechrau'r tymor, gydag amddiffyn cadarn Y Seintiau ond wedi ildio un gôl ers dechrau Tachwedd.
Gall y gêm rhwng y Seintiau a Phort Talbot fod yn un allweddol a gyda Llanelli - sydd eu hunain ond wedi colli i'r Seintiau ers canol Hydref - yn barod i fanteisio ar unrhyw fagliad, mae pethau yn dod yn gystadleuol iawn ar y brig.
Ychwanegwch fygythiadau Castell Nedd, sydd hefyd yn dangos cysondeb, er iddynt golli dros gyfnod y flwyddyn newydd mewn gêm ddarbi ym Mhort Talbot, yna mae'n argoeli'n dda am ail hanner cyffrous iawn i'r tymor.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Felly efo TNS ar y brig a Llanelli yn ail mae Ar y Marc yn meddwl bod na dro ar fyd?