Ydi'r rhod yn troi yn ninas Manceinion?
Mi roeddwn i yn gwylio Caerdydd yn chwarae Bristol City yn y gêm ail chwarae trydedd rownd Cwpan Lloegr nos Fawrth.
Roedd Caerdydd yn llawn haeddu eu buddugoliaeth - felly hefyd y pwynt yn Scunthorpe ddydd Sadwrn. Ond mae'r garfan yn edrych yn un sydd wedi blino ac angen ei gryfhau.
Dw i ddim yn deall y cefnogwyr sydd yn feirniadol o Dave Jones. Do, mae o wedi gwneud rhai camgymeriadau, ond o ystyried holl broblemau ariannol y clwb a'r ffaith iddo orfod gwerthu cymaint o chwaraewyr da, mae o'n anhygoel eu bod nhw mewn safle mor uchel yn y bencampwriaeth ac wedi llwyddo i gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Lloegr.
Hyd yn oed os nad ydych chi yn cefnogi'r naill dim a'r llall mi fydd dilynwyr y gamp yn edrych ymlaen yn fawr tuag at yr ail gêm yn y rownd gyn derfynol Cwpan Carling rhwng Manchester United a Manchester City.

Un o uchafbwyntiau'r wythnos oedd gweld Carlos Tevez yn sgorio ddwywaith ac yna yn ymateb fel y gwnaeth o i sylwadau Gary Neville am ei gyfraniad i United yn ystod ei gyfnod yn Old Trafford.
Efallai bod hi'n ffaith anodd i gefnogwyr United i dderbyn, ond mae pethau yn newid yn raddol. Rhaid iddyn nhw wynebu'r posibilrwydd nad United fydd y clwb mwyaf ym Mhrydain, ond yn waeth na hynny, efallai nad y nhw fydd y clwb mwyaf ym Manceinion yn y dyfodol agos.
A wrth drafod son clwb sydd wedi mwynhau llwyddiannau mawr yn y gorffennol roedd buddugoliaeth Lerpwl dros Tottenham nos Fercher yn un anferth. I nifer roedd byd Lerpwl ar ben ar ôl colli adref yn erbyn Reading yn y Cwpan. Ond yn dawel bach mae pethau'n gwella yn y gynghrair. Ennill yn Villa, cyfartal yn Stoke a churo Tottenham a hynny heb Steve Gerrard a Torres.
Oherwydd disgwyliadau gwahanol mae Villa a Spurs yn cael tymhorau gwych tra bod Lerpwl sefyllfa Lerpwl yn un argyfyngus bron. Ond o ran pwyntiau mae'r bwlch yn cau.
Efallai bod chwaraewyr gyda thalent yn Anfield, ond tydyn nhw erioed wedi cael cyfle cyson i arddangos eu doniau.
Ac yn olaf, prif stori'r wythnos wrth gwrs. Croeso nol i bêl droed i Wrecsam a gêm, ie gêm yn erbyn AFC Wimbledon. AFC Wimbledon - dyna chi stori arall!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 