Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dos o realiti ar Barc Goodison

Glyn Griffiths|14:20, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Manteisiais ar y cyfle i fynd i Barc Goodison y Sadwrn diwethaf i weld tîm clwb cyfoethocaf y Byd (Manchester City), yn chwarae erbyn un o'r tlodion (Everton).

Wrth ystyried ymddygiad City dros y mis diwethaf, mae rhywun wedi amau fod cael gwared â Mark Hughes wedi bod yn rhywbeth amserol, er mwyn sicrhau cyfres o gemau eithaf i Roberto Mancini, y rheolwr newydd.

Ond doedd yr hyn a ddigwyddodd nos Sadwrn ddim yn y cynllun.

Ar ôl yr heip o ennill pedair gêm yn olynol, yn erbyn cewri megis Stoke, Wolves, a Blackburn yn ogystal â Middlesbrough yn y Gwpan, derbyniodd Manchester City a Roberto Mancini ddos o realiti ar Barc Goodison.

Wrth i Everton chwarae gêm ormesol yn wyneb City, collodd sêr cyfoethog Bobby Manc (fel yr adnabyddir y rheolwr newydd ym Manceinion) y plot yn gyfan gwbl, a Robinho, anrheg y perchnogion i Mark Hughes, yn edrych fwy fel anrheg ail-law o siop elusen yn hytrach na'r chwaraewr mwyaf costus i chwarae dros y clwb.

Wrth i'r ddadlau gynyddu ynglŷn ag anrhefn ariannol yr Uwchgynghrair, rhaid gofyn am faint fydd y timau sydd wedi cael eu prynu gan dramorwyr (a chyfoethogion eraill) yn gallu parhau heb suddo mewn dyledion enfawr na chaiff eu hadennill.

Does ond inni edrych ar sefyllfa Portsmouth, Hull City, a hefyd Manchester United a Lerpwl i sylweddoli fod y broblem, erbyn heddiw, yn enfawr, ac yn deillio gan amlaf o wario yn ormodol ar gyflogau.

Petai y Sheik Mansour bin Zayed al-Nahyan o Abu Dhabi yn dechrau meddwl mai camgymeriad oedd prynu Manchester City (a Robinho) yna, mae lle i gredu yn sgil colled ariannol y clwb cyn ymroddiad y Sheik) na fyddai fawr o ddyfodol i Bobby Manc ym marn y bancwyr.

Mae yna ddigon o ofid ym Manceinion ar hyn o bryd wrth weld cefnogwyr Manchester United yn ceisio protestio yn erbyn y dyledion mae teulu'r Glazers wedi ei osod ar y clwb, a hefyd drosodd yn Lerpwl, wrth iddynt faglu i bob cyfeiriad, ar, ac oddi ar y cae.

Mae UEFA, o dan lywyddiaeth Michel Platini, wedi gorchymyn na ddylai clybiau sydd yn gyson yn gwneud colled yn ariannol, neu sydd yn dibynnu ar fuddsoddiad noddwr, gael caniatâd i chwarae yng nghystadlaethau Ewrop o dymor 2012/13 ymlaen.

"All pethau" , meddai Platini, "ddim parhau fel ag y maent."

A gyda'r clybiau yn ymddwyn fel piranha mewn powlen yn difa'i gilydd, tybed faint fydd y clybiau sydd wedi cael eu hail atgyfodi ar sylfeini tywod yn gallu parhau?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.