Pêl droed yn parhau i hawlio'r penawdau
Er nad oes yna fawr o gêmau wedi eu chwarae dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf mae yna ddigon wedi bod yn digwydd i sicrhau bod pêl droed yn parhau i hawlio'r penawdau. Dyna chi'r digwyddiadau trychinebus yn ymwneud â thîm pêl droed Togo.
Roedd sawl un wedi proffwydo y byddai cynnal Cwpan Cenhedloedd Affrica yn Angola yn fenter beryglus ac yn anffodus fe gawson nhw eu profi yn gywir. Mae hi'n anodd deall y penderfyniad i beidio â chaniatáu i Togo barhau yn y gystadleuaeth wedi iddyn nhw fynd adref am dridiau. Ond mae gwleidyddiaeth pêl droed Affrica yn gymhleth iawn.
Yma yng Nghymru, am resymau gwahanol iawn y mae clwb pêl droed Caerdydd wedi hawlio'r sylw. Problemau ariannol y clwb unwaith eto ddaeth i'r amlwg a'r ffaith fod yn rhaid talu £2.7m i'r swyddfa dreth cyn 12 Chwefror.
Roedden ni yn gwybod am fuddsoddiad o'r Dwyrain Pell a rŵan mae sôn am wŷr busnes o'r Unol Daleithiau yn dangos diddordeb.
Ac fel ymhob man arall mae'r tywydd wedi achosi anrhefn lwyr a golygu bod miloedd a'r filoedd o gefnogwyr pêl droed wedi gorfod newid eu trefniadau funud olaf. Mae o yn effeithio ar hyfforddywr, chwaraewyr, cefnogwyr a sylwebwyr.
Mi roedden ni lawr yn y Liberty ddydd Iau diwethaf ac roedd Paolo Sousa a'i dîm yn disgwyl teithio i Middlesbrough y diwrnod canlynol i chwarae yn y bencampwriaeth ar y Sadwrn.Yna bore Gwener cafwyd y newyddion fod y gêm wedi ei gohirio er bod y maes yn iawn.
Yr un oedd yr hanes ymhob gêm arall bron. Mi roeddwn ni i deithio I Turf Moor i sylwebu ar Burnley yn erbyn Stoke. Doedd dim problem ar y cae ond yn y strydoedd a'r maeysydd parcio cyfagos felly gohiriwyd y gêm. Dw i'n deall fod yn rhaid diogelu iechyd y cefnogwyr. Ond wedi dweud hynny does neb yn eu gorfodi i fynd i gemau. Cefnogwyr sydd yn dewis hynny o'u gwirfodd. A dros y penwythnos mae'n siŵr i filoedd fynd i ganol ein trefi a'n dinasoedd i siopa. Felly be ydi'r gwahaniaeth?
Yn hytrach na mynd i Turf Moor mi es i wylio Caerdydd yn chwarae yn erbyn Blackpool. Dw i'n gwybod nad oedd tîm Dave Jones ar eu gorau, ond mae hi'n anodd deall y feirniadaeth gafodd y chwaraewyr gan y cefnogwyr. Roedd rhai o'r chwaraewyr yn sâl ac mae Blackpool yn dîm da. Fe gafodd David Vaughan gêm arbennig unwaith eto yng nghanol y cae a gyda John Toshack yno'n gwylio mae'n siŵr y bydd o yng ngharfan Cymru ar gyfer eu gêm nesaf.
Mae gan bob un ohonom yr hawl i feirniadu chwaraewyr a pherfformiad tîm ond dwi'n cytuno gyda Dave Jones rheolwr Caerdydd nad oedd ymateb y cefnogwyr ddydd Sadwrn am godi ysbryd y tîm. Yn wir fe weithiodd o blaid yr ymwelwyr.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 