Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Rhewi'n gorn

Glyn Griffiths|14:02, Dydd Gwener, 8 Ionawr 2010

Gyda phenwythnos arall o gemau pêl-droed, yn cael eu chwalu gan y tywydd oer a rhewllyd, ystyriwch yr effaith a gafodd eira mawr 1946 ar y byd pêl-droed cyn cwyno'n ormodol!

Gohiriwyd cymaint o gemau, hyd nes i'r tymor, yn yr hen adran gyntaf yn Lloegr, ymestyn hyd at ganol fis Mehefin.

Cipiodd Lerpwl y bencampwriaeth ar y Sadwrn olaf, Mehefin 14, pan fethodd Stoke City â churo Sheffield United, a sicrhau mai Lerpwl a fyddai'n bencampwyr, yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Wolverhampton Wanderers ar y Sadwrn olaf ym mis Mai (gêm a fyddai wedi gweld y Wolves yn bencampwyr pe bydde nhw wedi ennill).

Yn dilyn y gaeaf oer a rhewllyd sydd yn ein mysg ar hyn o bryd, faint o gemau a fydd angen eu hail drefnu yn Uwchgynghrair Cymru, tybed, ac a fydd hyn yn golygu y bydd y tymor yn ymestyn i mewn i'r Haf?

Petai hyn yn digwydd, byddai deuddeg o'r timau detholedig yn wynebu tymor newydd yn yr Uwchgynghrair, a fyddai'n cynnwys 44 o gemau, o fewn ychydig wythnosau heb fawr o doriad ers diwedd y tymor yma.

Hwyrach nad oes gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru rheolaeth dros y tywydd, ond mae wynebu 44 o gemau cynghrair y tymor nesaf yn dechrau gwneud i rywun anesmwytho yn sgil y nifer o gemau fydd angen eu hail drefnu drwy, o bosib, ymestyn y tymor presennol.

Hwyrach y bydd rhaid wynebu'r tymor newydd a'i holl gemau gydag ond ychydig iawn o seibiant rhwng y ddau dymor - ac i'r timau a fydd yn cystadlu yn Ewrop, hwyrach na fydd yna seibiant o gwbwl!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.