Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Sgidiau bach, sgidiau mawr

Glyn Griffiths|14:18, Dydd Gwener, 5 Chwefror 2010

Pa mor hen ydi'ch esgidiau pêl-droed chi? Mae gen i rai, sydd yn parhau i gael eu defnyddio pan fyddaf yn hyfforddi yn achlysurol, a brynais dros ugain mlynedd yn ôl - sef yr 'Adidas Mexico 1986'.

Mae'r esgidiau cystal heddiw ac a fuont erioed, ac yn sgleinio'n llachar diolch i'r dwbin a gafodd ei rwbio arnynt yn feunyddiol dros y blynyddoedd.

Be'di dwbin? Mae'n debyg fyddai ymateb nifer o chwaraewyr ifanc, gan mai esgidiau fel sliperi sydd yn cael eu gwisgo heddiw.

Ond, yn eu dydd, esgidiau fel sliperi oedd disgrifiad y rhai hyn am yr esgidiau a oeddem ni yn eu gwisgo yn y pumdegau. Os am wisgo'r gorau yna, Manfield Hotspur oedd y rhai i'w cael, ond fel unrhyw esgid arall y pryd hynny, roeddynt yn fawr, gyda lledr caled yn cyrraedd dros eich ffêr, a stỳds lledr wedi eu morthwylio o dan wadn yr esgid. Mae unrhyw un a wisgodd yr esgidiau yma yn gwybod beth oedd gwerth tun o ddwbin!

stanley_matthews.jpg

Yna daeth tro ar fyd. Yng nghanol y pumdegau datblygwyd esgidiau a oedd a stỳds rwber neu plastic ac yn cael eu gosod yn lle gyda sgriw . Wedi dioddef anafiadau di-ri wrth i hoelion y stỳds lledr dorri drwy waelod y waden (a hynny yn aml) gan frathu'r a rhwygo'r croen ar waelod eich troed, roedd y stỳds newydd fel manna o'r nefoedd!

Daeth chwaraewyr enwog y pumdegau fel Stanley Matthews a Tom Finney i noddi'r esgidiau newydd, ac os oeddech am edrych yn well na'ch cyfoedion, yna doedd dim gwell i'w gael na'r 'Tom Finney Continental' neu esgidiau Stanley Matthews a oedd yn cael eu gwerthu yn siop y Co-op.

Dilyn ffasiwn tramor oedd y gwneuthurwyr, gyda Matthews a Finney wedi gweld gwelliant aruthrol yng ngallu chwaraewyr Brasil a thimau eraill o wledydd Ewrop, a oedd yn gwisgo esgidiau ysgafnach a mwy hyblyg.

Mae'r esgidiau a wisgodd Stanley Matthews yn ffeinal 1953 yn mynd ar werth yn Bonham's yng Nghaer, tybed beth fydd gwerth yr esgidiau yma o siop y Co-op heddiw?

Os na ellwch eu fforddio, yna mae pâr o esgidai Robbie Savage hefyd ar werth mewn arwerthiant gwahanol - yn derbyn cynigion rhwng £80 a £100.

Ac oes unrhyw un angen pâr o esgidiau Adidas Mecsico 1986, yna rwy'n barod i wrando ar eich cynnig!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.