Ail danio'r dychymyg
Mi allaf gofio rhai blynyddoedd yn ôl pan roedd trefn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2006 yn cael ei benderfynu ac fe ddaeth Cymru, oedd ar y pryd o dan reolaeth Mark Hughes, allan o'r het gyda Lloegr. Roedd yna gyffro anhygoel.
Bryd hynny roedd Cymru yn mwynhau cyfnod weddol lwyddiannus ac wedi methu o fewn trwch blewyn i gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaethau Ewrop yn 2004.
Dwi ddim yn sicr i ni brofi'r un cyffro yn yr ymateb amser cinio Ddydd Sul pan unwaith eto cafodd Cymru a Lloegr eu cynnwys yn yr un grŵp ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2012. Ac efallai bod hynny'n adlewyrchu'r ffaith nad yw Cymru wedi mwynhau cymaint â hynny o lwyddiant o dan John Toshack.
Ond mae un peth yn sicr. Mae'r ffaith bod Cymru yn yr un grŵp a'r hen elyn yn mynd i ail danio diddordeb yn y tîm cenedlaethol. Mi fydd pawb am weld y gêm gartref, ble bynnag fyddan nhw yn chwarae ac mi fydd miloedd am deithio i Wembley.
Prin anaml y mae'r tîm pêl-droed cenedlaethol yn cael y cyfle i chwarae yn Wembley. Ac mi allai perfformiad da neu ganlyniad da sbarduno diddordeb yn y gemau eraill.
Mae o hefyd yn newyddion ardderchog i brif weithredwr newydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Jonathan Ford. Prif nod ei swydd yw marchnata'r gêm a dod ag arian i mewn i'r coffrau. Wel, mae ganddo'r cyfle perffaith i wneud hynny.
Yr hyn sydd wedi fy synnu ers i'r enwau ddod allan o'r het yw'r ffaith bod y prif weithredwr heb ddatgan dim ynglŷn â'r gêm.. Roedd cyfle gwych ganddo ddydd Llun diwethaf i gyfarch y wasg gyda'r rheolwr John Toshack ac esbonio sut fyddai Cymru yn elwa yn ariannol ac wrth farchnata'r cynnyrch.
O ran y gwledydd eraill mae'r grŵp yn hynod o agored. Tra bydd Cymru yn gobeithio ennill gartref yn erbyn Y Swistir, Bwlgaria a Montenegro mi fydd y gwledydd hynny hefyd yn teimlo yn un mor hyderus ar eu tomen eu hunain.
Ac wrth gwrs mewn grŵp o bump does yna ddim Liechtenstein na Azerbaijan ble mae disgwyl i Gymru gipio chwe phwynt.

Mae Cymru a Toshack yn gwybod na fydd hi'n hawdd o bell ffordd yn erbyn Montenegro. Mi gollodd Cymru yno mewn gêm gyfeillgar fis Awst y llynedd ac mae gan y rheolwr barch aruthrol tuag at unrhyw bêl-droediwr sydd yn dod o diriogaeth yr hen Iwgoslafia.
Mi fydd y cyfarfod i drafod pryd y bydd y gemau yn cael eu chwarae yn cael ei gynnal yn y Swistir ar 15 Mawrth. Mi fydd hi'n wahanol eleni gyda gemau yn cael ei chwarae naill ai ar nos Wener neu bnawn Sadwrn ac yna ar y nos Fawrth er mwyn caniatáu i'r chwaraewyr ddychwelyd at eu clybiau diwrnod yn gynharach.
A'r cwestiwn mawr ar wefusau cefnogwyr Cymru? Ble fydd y gêm gartref yn erbyn Lloegr yn cael ei chwarae?
O ran rhesymau ariannol y penderfyniad fyddai Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Ond o ran hanes a gobaith Cymru i ennill y gêm? Dydw i ddim mor sicr.
Ddwywaith yn y gorffennol pan roedd cyfle go iawn gan Gymru i gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau fe blymiodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru am yr ateb ariannol tymor byr. Anfield yn 1977 a Pharc Ninian yn 1985.
Roedd y rheolwyr a'r chwaraewyr ar y pryd am chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam. Ond diystyrwyd eu barn a chollwyd y ddwy gêm. Y rheswm wrth gwrs oedd nad oedd cymaint yn gallu gwylio ar y Cae Ras a bod modd denu mwy o gefnogaeth ac arian yn y meysydd eraill.
Be ddigwyddodd? Miloedd o Albanwyr yn heidio i'r ddwy gêm. Stadiwm Caerdydd neu'r Liberty amdani felly.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 