Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Penbleth i'r Gymdeithas

Glyn Griffiths|13:55, Dydd Gwener, 12 Chwefror 2010

Mae'n ymddangos fod John Toshack am gasglu barn y chwaraewyr ynglŷn â lleoliad y gêm yn erbyn Lloegr yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop.

Y dewis mae'n debyg fyddai Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm Dinas Caerdydd, neu Stadiwm Liberty yn Abertawe.

Gall Cymdeithas Bêl Droed Cymru fynd am y geiniog yn Stadiwm y Mileniwm, neu am awyrgylch, hwyrach mwy trydanol a mwy cefnogol yna'r ddwy stadiwm arall, sydd lai eu maint.

Gallai'r arian a gesglir mewn un gêm yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddod â chymaint i goffrau'r Gymdeithas Bêl Droed ac a fyddai'r tair gêm arall efo'i gilydd.

Mae cynsail i'r penbleth.

Yn ôl ym 1978, aeth Cymru, o'i dewis ei hun, i chwarae yn erbyn yr Alban ar faes Anfield yn Lerpwl mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd, a mynd ar ôl y geiniog, a chael eu dyrnu allan o'r gystadleuaeth gan law Joe Jordan.

Mae llawer o'r farn petai'r gêm wedi cael ei chynnal yng Nghymru, mi fyddai'r tîm wedi curo ac wedi llwyddo i fynd drwodd i'r rowndiau terfynol yn yr Ariannin.

Mae dewis o flaen aelodau enwebol y Gymdeithas eto - ond nid i fynd i Anfield nac unrhyw faes arall yn Lloegr.

Rhaid penderfynu rhwng mynd i'r Mileniwm , lle ellir gwneud elw sylweddol, neu os ydynt yn credu bod gwell siawns o ennill ar stadiwm lai, yna mynd i Stadiwm Dinas Caerdydd neu i'r Liberty

Wrth gwrs, petai Cymru yn gallu dewis trefn i'r gemau a fyddai yn gweld llwyddiant buan, yna byddai ysbryd y cefnogwyr yn codi, gan arwain at awyrgylch drydanol yn Stadiwm y Mileniwm, a'r dewis yn dod yn haws!

Hwyrach mai dewis trefn y gemau fydd y dewisiadau mwyaf allweddol.

Yng ngwledydd Pwyl a Wcrain fydd y rowndiau terfynol, ond i Gymru, ai diwedd y gan fydd y geiniog, neu gemau yn Gdansk?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:59 ar 21 Chwefror 2010, Mr Picton ysgrifennodd:

    Rwy'n clywed dipyn yn erbyn y stadiwm y mileniwn ond curom ni yr Eidalwyr ydo. Anfantais y stadiwn yw pan nad yw yn llawn. Yn erbyn Lloegr budd modd ei lenwi a dynna'r dewis cywir - cofiwch gol "deflected" gath J Cole a dywedodd golgeidwad Lloegr mai ei safiad yn erbyn Hartson oedd ei orau erioed.

    Ond y gwir ydi nid y gem yn erbyn Lloegr fydd yn penderfynu dyfodol Cymru ond y gemau yn erbyn Bwlgaria a Swisdir - a dylai rheinni fod y stadiwn llai. Ar ol dweud hyn nid oes angen dewis y stadiwm tan 90 diwrnod tan y gem - felly gwell fyddai aros gyda'r gemau yn 2011?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.