Arbed ciciau o'r smotyn
Sut mae arbed ciciau o'r smotyn mewn gêm bêl-droed?
Petawn i'n arbenigwr ar y pwnc mae'n debyg y byddwn yn gwneud rhywbeth llawer gwahanol nac ysgrifennu blog ar y peth.
Ond mae yna arbenigwyr yn bod, ac yn gallu dangos inni drwy ganlyniadau gwaith ymchwil mewn prifysgolion, mewn cyd-weithrediad a chlybiau mwyaf y byd, y gellir adnabod arwyddion sydd yn rhoi gwybodaeth buan i'r gôl-geidwad wrth geisio penderfynu pa ffordd mae'r cic o'r smotyn am fynd.
Ymysg arbenigwyr mwyaf y byd yn y maes ymchwil yma, mae'r Athro Mark Williams, gynt o Brifysgol John Moores Lerpwl, ond heddiw yn Athro Gwyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Sydney yn Awstralia.
Mark hefyd oedd is-reolwr Treffynnon yn ein dyddiau yn Uwchgynghrair Cymru.
Mae tri arwydd i'w nodi os am roi cyfle i'ch hunan o arbed y gic o'r smotyn.
Yn gyntaf trwy edrych ar osgo corff y ciciwr - os yw yr ciciwr yn crymanu'n isel, bydd y bêl, yn aros yn isel; os yn sefyll yn fwy syth, aiff y bêl yn uwch.

Yn ail, y mwyaf llem yw ongl rhediad y ciciwr tuag at y bêl, yna y mwyaf tebyg y bydd y bêl yn dilyn cyfeiriai y rhediad - h.y. os yw ciciwr troed dde yn rhedeg, ar ongl lem iawn at y bêl, yna fe aiff y bêl i'r dde,
Ond yr arwydd mwyaf dibynadwy ydi trwy adnabod safle'r glun wrth i'r ciciwr daro'r bêl.
Os yw'r glun yn wynebu yn syth at y gôl (wrth gicio gyda'r droed dde) yna fe fydd yn bêl yn teithio i'r chwith.
Os yw ciciwr troed dde am geisio daro'r bêl i'r dde, yna mae'n rhaid iddo droi ei glun ychydig er mwyn anfon y bêl i'r dde.
Wrth gwrs mae hyn i gyd yn digwydd mewn canran o eiliad - ond mae'r gôlgeidwaid gorau wedi dod i ddarllen y symudiadau a'r arwyddion yma gan ymateb yn llwyddiannus nifer o weithiau.
Wrth gwrs mae'r cicwyr hefyd yn gwybod am hyn , ac yn ceisio cuddio eu bwriad hyd nes yr eiliad olaf, cyn gosod eu corff yn briodol er mwyn ceisio cyflawni'r gic yn llwyddiannus.
Mater cymhleth i'w egluro - ond eithaf haws i'w ddeall - cyn belled ag y gallwch ymateb yn chwim ac ar gyflymder os mai gôlgeidwad ydych.
Os ydych yn amau unrhyw un o'r arwyddion yma - yna ewch allan i arbrofi, gan nodi siâp eich corff wrth geisio cyflawni cic o'r smotyn ar gae ymarfer!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 