Llwyddiant Abertawe yn esiampl i bawb
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae yna lawer o sylw wedi cael ei roi i broblemau Caerdydd a phêl-droed yn gyffredinol o ran diffyg arian a dyledion ac yn y blaen.
Oherwydd hynny mae'n hawdd anghofio fod yna straeon am lwyddiant ar lefel y clybiau yn bodoli yn Ne Cymru, sef yng Nghasnewydd ac yn Abertawe.
Mae'r gwaith mae Dean Holdsworth wedi ei wneud gyda Chasnewydd yn wych, ac ar gyfer gêm yng Nghaerwrangon yn ystod yr wythnos ble enillon nhw o 4-1 fe aeth dros 800 o gefnogwyr i ddilyn y clwb.
Yn sicr, mi fydda nhw'n chwarae yn Uwch Gynghrair y Blue Square y tymor nesaf.
Pan chwaraeodd Abertawe yn erbyn Newcastle ychydig yn ôl, fe reolodd tîm Paulo Sousa y gêm yn llwyr ac roedd hi'n anodd credu ar ddiwedd y 90 munud nad oedden nhw wedi ennill y gêm.

Yr un oedd yr hanes yn Home Park ar y nos Fawrth canlynol pan fu'n rhaid bodloni ar gêm gyfartal 1-1 arall yn erbyn Plymouth.
Cyn y gêm yn erbyn Newcastle roedd y sôn am ddatblygiad yr Elyrch. Pan roedd Abertawe yn gorfod curo Hull City ar y Vetch yn 2003 er mwyn aros yng Nghynghrair Lloegr, roedd Newcastle yn gorffen yn drydydd yn yr Uwch Gynghrair o dan Syr Bobby Robson.
Mae'r datblygiad, felly, wedi bod yn aruthrol.
Mae'r cyfarwyddwyr yn haeddu llawer o'r clod am hyn yn sgil eu penodiadau o ran rheolwyr.
Yn gyntaf, yn etifeddu tîm Nick Cusack, fe gymerodd Brian Flynn yr awenau. Fe ddenodd o chwaraewyr o safon Lee Trundle, Leon Brittan, Alan Tate a Roberto Martinez. Ac mae tri yn parhau gyda'r clwb.
Yn olynydd i Flynn, fe ddaeth Kenny Jackett. Cafwyd dyrchafiad, buddugoliaeth yn Nhlws y Johnstone's Paints, colli yn rownd derfynol gemau ail-gyfle ar giciau o'r smotyn yn erbyn Barnsley a rhediad yng Nghwpan Lloegr.
Dychwelodd Roberto Martinez i'r clwb ble cafwyd safon o bêl-droed gwefreiddiol a chyffrous ac unwaith eto daeth llwyddiant cyn i'r rheolwr gael ei ddenu i'r Uwch Gynghrair.
A phwy oedd wedi rhagweld nid yn unig penodiad Paolo Sousa ond y llwyddiant fyddai'n dod yn sgil y penodiad hwnnw?
Yn parhau i fod yn dîm sydd yn pasio'r bêl yn well nag unrhyw un arall yn yr adran, maen nhw'n gryfach ac yn fwy disgybledig o dan Sousa. Mae'r garfan yn gref ac mae'r perfformiadau a'r canlyniadau yn gyson pwy bynnag sydd ar y cae.
Wedi'r gêm yn erbyn Newcastle, ac er gystal y perfformiad, fe wnaeth Sousa bum newid ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Plymouth. Ar wahân i Federico Bessone doedd neb wedi eu brifo.
Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'r clwb dros y blynyddoedd diwethaf yn esiampl i lawer a does dim dwywaith fod ganddyn nhw gyfle gwych i gyrraedd yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
Ac mi fyddai'r Liberty dan ei sang ar gyfer ymweliad Manchester United, Arsenal, Chelsea, Lerpwl, Manchester City, Tottenham a Wigan...
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 