Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Stiwardiaid yn tarfu ar yr hwyl

Glyn Griffiths|16:19, Dydd Gwener, 26 Chwefror 2010

Roedd yna adeg, unwaith, pan yr oedd cefnogwr pêl-droed yn cael ei ystyried fel tipyn o ddihiryn, yn chwilio am unrhyw esgus i gwffio.

Erbyn heddiw, mae'r stiwardiaid sydd yn cael eu defnyddio gan glybiau pêl-droed, yn ymddangos ac yn ymddwyn fel petaent yn brysur drio'u gorau i etifeddu'r ddelwedd yma.

Ganol wythnos, sgoriodd Reading yn hwyr yng Nghwpan FA Lloegr, i ennill oddi cartref yn West Bromwich Albion, ac ar ddiwedd y gêm, peth naturiol oedd i aelodau'r tîm fynd i gyfeiriad eu cefnogwyr i ddathlu.

stiwardiaid.jpg

Ond nid yng ngardd gefn stiwardiaid West Brom mae ymddwyn felly!

O flaen camerâu teledu, roedd yn amlwg fod y stiwardiaid yma am wneud unrhyw beth, a hynny yn gorfforol petai rhaid, i gadw'r chwaraewyr oddi wrth eu cefnogwyr.

Does gen i fawr o amser at y bobl yma sydd yn gwisgo siacedi melyn neu oren, ac yn ymddwyn fel hwliganiaid o dan drwydded wrth i'r grym o geisio cadw trefn ar eraill fynd i'w pennau.

Cefais brofiad mewn gêm Uwchgynghrair Lloegr, (Bolton yn erbyn Everton), pan safodd gŵr i fyny o'i sedd, gan gymeradwyo gôl i Everton (ac na, nid fi oedd y gŵr hwnnw).

Cyn pen chwinciad, roedd y stiwardiaid yno fel gwenyn melyn o gwmpas pot jam, ac yn hebrwng y gŵr druan i ffwrdd am iddo greu aflonyddwch ymysg y dyrfa!

Mae wedi dod i rywbeth os na ellir rhywun gymeradwyo chwarae da gan unrhyw dîm, heb gael y stiwardiaid cythreulig a diegwyddor yn eich erlid.

Tybed a welwn chwaraewr a feiddiai sgorio gôl oddi cartref yn cael ei hebrwng o'r maes gan y stiwardiaid am ypsetio y cefnogwyr cartref.

Mae rhyddid yr unigolyn yn rhan annatod o ddemocratiaeth, ond mae'n ymddangos fel petai'r elfen yma o'n hawliau wedi peidio â bodoli mewn caeau pêl-droed mwyach, diolch i awdurdod unbenaethol a hunan benodol y stiwardiaid mileinig lletchwith.

Gwyn eu byd y stiwardiaid mewn siacedi melyn , canys eiddynt hwy yw'r hawl i erlid ar unrhyw gefnogwr a feiddiai gwerthfawrogi pêl-droed deniadol gan yr ymwelwyr!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:19 ar 1 Mawrth 2010, Rhys ysgrifennodd:

    Er bod prisau i wylio'r gêm wedi codi i lefelau hollol afresymol a bod safon y chwarae wedi gostwng (wel mae o os ydych yn gefnogwr Wrecsam fel fi), y modd mae mae cefnogwyr yn cael eu trin gan stiwardadiaid, a weithiau'r heddlu ydy'r prif reswm dw i'n mynd i wylio llai a llai o bêl droed byw.

    Dw i ddim yn hoff o ofred eistedd i wylio pêl-droed ac wedi bod yn dyst i lawr o fygythiadau gan stiwardiaid. Un peth os yw pobl yn ymddwyn yn fygythiol neu'n beryglus, ond fel arfer 'sdim rheswm.

    Un'r llefydd oedd Bradford, a oedd yn bod yn reit ymosodol tuag at berson oedd yn sefyll wrth ei sedd a oedd reit yng nhefn yr eisteddle. Yn eironig braidd, mae Bradford yn arbrofi y tymor yma gyda chynllun i ail gyflwyno ardal sefyll penodol (wrth addasu 500 o seddi).

    Mae Football Supporters Federation yn cynnal cynhadledd/fforwm ar y peth yn fuan o dan yr enw Sit Down, Shut Up: Are Football Supporters Discriminated Against?

    Mynychais gêm Uwchgynghrair Lloegr y tymor diwethaf am y tro cyntaf ers deng mlynedd. Es i Goodison Park i wylio Everton yn erbyn Spurs. Synnais i weld bod cefnogwyr Spurs yn sefyll drwy gydol y gêm, gyda dim ymgasi gan y stiwardiaid i'w rhywstro.

    Dw i'n meddwl os y cefnogwyr yn ei wneud yn hollol amlwg o'r cychwyn nod oes dim un ohonynt am eistedd, yna bydd stiwaridaid yn cilio rhag creu trafferth, tra os mai dim ond rhan o'r dorf sy'n sefyll, neu mai ychydig gannoedd sy'n dilyn y tîm yna mae stiwardiaid yn fwy hyderus.

    Dw i wedi bod i wylio gêm oddicartref Wrecsam yn erbyn Forrest Green Rovers y ddau dymor diwetha yma. Eleni roedd teras newydd ar gyfer cefnogwyr oddi cartref wedi ei gwblhau, felly roedd dewis gan gefnogwyr sefyll ar y teras neu deiws eistedd yn yr eisteddle. Sefyll oedd dewis dros dri chwatret cefnogwyr Wrecsam, a'r un fath pan chwarawyd oddi cartref yn Efrog hefyd y tymor yma ble roedd dewis.

    Y tymor diwetha, gan nad oedd y teras yn barod, roedd rhaid i bawb eistedd, a gan mai honno oedd gem cynta Dean Saunders wrth y llyw a Forest Green Rovers yn disgwyl torf fawr, roedd y clwb wedi hurio stiwardiad 'profiadol' o Bristol City am y dydd. Doedd fiw i neb feiddio sefyll, ac ar un adeg gorchmynwyd i un cefnogwr Wrecsam beidio a ffilmio clip o'r gêm gyda ei ffôn symudol. "Pam ddim?" gofynodd y cefnogwr. "Football league rules" oedd yr ateb. Chwarddodd pawb pan atebodd y cefnogwr Wrecsam "We're not even in the league any more, this is the Blue Square Premier!"

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.