Bywyd byth yn ddiflas wrth ddilyn Cymru
Fe ddeudodd rywun wrtha i unwaith o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru, er nad oedden ni'n dîm llwyddiannus doedd bywyd byth yn ddiflas wrth ddilyn Cymru. Ac unwaith eto mae hynny wedi ei brofi'n wir.
Gêm gyfeillgar digon di-nod yn erbyn Sweden ar Stadiwm y Liberty yn Abertawe - felly roedd hi yn ymddangos yr wythnos diwethaf beth bynnag.
Yna nos Sadwrn, fe newidiodd hynny i gyd gyda'r anaf dychrynllyd ac anffodus i Aaron Ramsey. Y person sydd bwysicaf yn hyn i gyd wrth gwrs, ond o ran safbwynt John Toshack a Chymru mae o'n ergyd enfawr.
Ramsey oedd dolen gyswllt popeth oedd yn arbennig am fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd yn eu gêm ddiwethaf.
Er ei fod yn ei arddegau o hyd, roedd disgwyl llawer ganddo yn ystod rowndiau rhagbrofol pencampwriaethau Ewrop.
Ac yna ddydd Llun, John Toshack, oedd wedi gadael Craig Bellamy allan o'r garfan, yn cael y cyfle i gadarnhau y byddai'r ymosodwr yn rhan allweddol o'i gynlluniau yn y gemau cystadleuol. Gwrthod y cynnig wnaeth o ac felly'n codi amheuon am Bellamy a Chymru.
Mae'n anhygoel meddwl pe bai Cymru yn chwarae yn erbyn Lloegr ym mis Medi a bod Bellamy yn holliach ac ar gael i chwarae na fyddai'n cael ei gynnwys. Er potensial chwaraewyr ifanc fel Ched Evans, David Cotterill a Simon Church dydyn nhw ddim yn mynd i achosi i Rio Ferdinand a John Terry golli cwsg.
Y trydydd pwnc wrth gwrs oedd maint y dorf. Erbyn pnawn ddydd Mawrth, rhyw 5,000 o docynnau oedd wedi eu gwerthu.
Mae hynny'n naturiol yn siomedig, yn enwedig pan mae un yn ystyried fod bron i 17,000 wedi bod yn y Liberty y penwythnos diwethaf i wylio Abertawe yn curo Peterborough. Mae 20,000 yn gwylio Caerdydd yn gyson, felly pam nad yw'r cefnogwyr yn dilyn Cymru?
Mae sawl ffactor mae'n rhaid ystyried. Mae yna ofynion anferth ar gefnogwyr pêl-droed o ran arian ac o ran teithio, gyda chymaint o gemau yn cael eu chwarae.
Unwaith eto mae yna absenoldebau. Os nad yw'r rheolwr am gynnwys ei chwaraewyr gorau, megis Bellamy, yna dyw'r cefnogwyr ddim am fynychu'r gemau.
Nid Sweden chwaith ydi'r gwrthwynebwyr sydd am ddenu cefnogaeth ychwaith. O'r dyddiau pan roedd Cymru o dan Mark Hughes yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn Yr Ariannin, Brasil a'r Almaen, bellach mae Cymru yn chwarae yn erbyn Georgia, Seland Newydd a Liechtenstein mewn gemau cyfeillgar.
Ar y llaw arall mae'n rhaid i Toshack gael y cyfle i arbrofi. Mae angen gweld pwy sydd am lenwi'r bwlch yn absenoldeb Ramsey. Beth am Andy King, sydd yn cael tymor arbennig gyda Leicester City? Ac os nad oes yna ddyfodol i Craig Bellamy, pwy fydd yn arwain yr ymosod?
Dyna'r rheswm tu ôl i'r gemau ac os ddaw llwyddiant yn sgil hynny ym Mhencampwriaethau Ewrop yna mi ddaw 'r gefnogaeth yn ei ôl.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Ian, Mae gen i syniad bach o sut i gael fwy o gefnogwyr at y gemau cyfeillgar cyn Ewro 2012. Dan i'n gwaebod bydd rhan fwyaf o Gymry eisiau gweld Cymru yn erbyn Lloegr yn y dyfodol agos - felly rhyddau ticedi ir rhai sydd wedi mynychu gemau diweddar. Efallai datblygu system fel "Tesco loyalti card" i'r cefnogwyr e.e
I gefnogwr o Gaerdydd yn mynychu gem gyfellgar yn Gaerdydd 5 pwynt, gem gyfeillgar yn Wrecsam 10 pwynt, gem gystadleuol (yn Gaerdydd) 10 pwynt gem oddi cartref 20 pwynt, Azerbajan oddi cartref 30 pwynt ac yn y blaen. Hefyd prynu crys Cymru 20 pwynt ayyb
Felly pan ddaeth y gemau fel Lloegr gartref neu'r "play-offs" (croesi bysedd) bydd y ticedi yn cael eu rhoi i rhai sydd hefo mwy o bwyntiau.