Y degawd a fu
Beth yw eich uchafbwynt pêl-droed o'r ddegawd ddiwethaf? Yma mae rhai o gyfranwyr Ar y Marc yn rhannu eu hatgofion:
Tomi Morgan, Rheolwr Porthmadog:
Un peth sydd wedi sefyll allan dros y ddegawd ddiwethaf yw cysondeb y dewin o Manchester United, Ryan Giggs. Esiampl wych i chwaraewyr ifanc sut i ymddwyn ar y maes ac oddi ar. Mae'n un o fawrion y gêm eith lawr mewn hanes a bydd byth ei debyg eto.
Dave Williams, Cyfarwyddwr CPD Y Rhyl:
Does dim amheuaeth mai uchafbwynt y ddegawd ddiwethaf oedd tymor 2003/2004 pan wnaetho ni ennill bron bob cwpan - Cwpan Cymru, y Bencampwriaeth, Cwpan y Gynghrair a Cwpan Her Arfordir Gogledd Cymru.
Gary Pritchard, sylwebydd a chefnogwr Wrecsam:
Y gêm sydd yn sefyll allan i fi dros y ddegawd ddiwethaf ydi'r gêm ddigwyddodd ar y 5ed o Fai 2007 - Wrecsam yn erbyn Boston. Roedd pwy bynnag oedd yn ennill yn aros yn y Gynghrair a pwy bynnag oedd yn colli yn disgyn allan o'r Gynghrair. Hanner amser roedde ni'n colli o 1-0 ond wedyn fe sgoriodd Ryan Valentine o'r smotyn i ddod â Wrecsam yn gyfartal. Doedd hi ddim ots bod Chris Llywellyn a Mike Proctor wedi sgorio i wneud hi'n 3-1 ar ddiwedd y gêm achos roedd ffans Wrecsam wedi hen ddechrau dathlu.
Rhydwen James, cefnogwraig Abertawe:
Yr uchafbwynt fi'n credu yn ystod y ddegawd ddiwethaf i fi oedd wrth gwrs ein bod wedi cyrraedd lle ry' ni. Buom ni ar ddechrau'r ddegawd bron a mynd mas o'r Gynghrair ond yr uchafbwynt oedd ein bod wedi cyrraedd lan le ry' ni nawr.
Glyn Griffiths, cyn rheolwr Treffynnon:
Uchafbwynt y ddegawd i mi oedd gêm ble roeddwn i yno yn fyw i'w gweld. Yn Old Trafford 2001, Lloegr yn chwarae Gwlad Groeg. Roedd Lloegr yn anobeithiol ond rywsut neu'i gilydd yn cael eu harwain gan David Beckham a pwy all anghofio'r gic rydd 'na yn y diwedd. Bend It Like Beckham fu hi byth ers hynny. Dyna be oedd arweiniad go iawn mewn gêm gan achub ei wlad ac achub ei dîm.
Phil Stead, cefnogwr Caerdydd:
Gweld Caerdydd yn Wembley yn rownd gyn derfynol Cwpan yr FA, nid y ffeinal ei hun. Dyma oedd y tro cyntaf i ni fynd i Wembley ac wrth gwrs fe wnaetho ni ennill y gêm.
Tommie Collins, cefnogwr Chelsea a Chymru:
Dwi wedi bod yn cefnogi Chelsea ers fy mod yn saith oed ac yr uchafbwynt i mi oedd Chelsea yn curo'r bencampwriaeth yn 2004/2005 a Chymru yn curo'r Eidal yn 2002. Bythgofiadwy.
Ian Gill, aelod o griw Ar y Marc:
'Dwi'n mynd yn ôl i Gwpan Cymru 2008 a'r rownd derfynol rhwng Bangor a Llanelli. Roedd hon yn gêm hefo popeth - cardiau coch, cic o'r smotyn a Chris Seargeant yn sgorio yn y funud olaf. Roedd Bangor wedi bod lawr i ddeg dyn ar ôl pum munud wedi i Peter Hoy gael ei yrru o'r cae a'r tîm proffesiynol llawn amser ar y blaen o 2-1 cyn i Seargeant sgorio'r foli anhygoel. Yn yr amser ychwanegol dim ond un tîm oedd yn chwarae sef Bangor, gan ennill y gêm o 4-2.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 