Mae trawsffurfiad yn newid maint neu safle siâp. Mae siâp tebyg yn amrywio o ran ei faint. Mae siapiau cyfath yn union yr un fath. Mae ffactorau graddfa’n cyfrifo arwynebedd a chyfaint siapiau cyfath.
Mae helaethiad yn ôl ffactor graddfaNifer o weithiau’n fwy neu’n llai y bydd siâp wedi ei helaethu. negatif yn creu delwedd ar ochr arall canol yr helaethiad. Mae’r ddelwedd yn ymddangos â’i ben i lawr.
Cafodd y petryal ABCD ei helaethu yn ôl ffactor graddfa \(-\frac{1}{2}\).
Mae’r hydoedd ym mhetryal A'B'C'D' yn \(\frac{1}{2}\) gwaith yr hyd ym mhetryal ABCD. Mae’r pellter rhwng O ac A'B'C'D' yn hanner y pellter rhwng O ac ABCD.
Helaetha’r pedrochr EFGH yn ôl ffactor graddfa -½ o amgylch y canol helaethiad O
Image caption,
Yn gyntaf, tynna linellau allan o bob un o gorneli’r pedrochr at O a’u hymestyn
Image caption,
Nesaf, mesura’r pellter rhwng O a phob un o gorneli EFGH. Rhanna’r pellter â dau a phlotio’r pwyntiau E' F' G' a H' ar ochr arall canol yr helaethiad. Yn olaf, cysyllta’r pwyntiau E' F' G' a H'
1 of 3
Slide1 of 3, Siâp (EFGH), Helaetha’r pedrochr EFGH yn ôl ffactor graddfa -½ o amgylch y canol helaethiad O