Cylchoedd - Canolradd ac UwchDiamedr a radiws

Siapiau 2D gydag un ochr a dim corneli yw cylchoedd. Mae’r cylchyn bob amser yr un pellter o’r canol – y radiws. Rhannau gwahanol o’r cylch yw sector, segment, arc a chord.

Part ofMathemategGeometreg a Mesur

Diamedr a radiws

Diamedr cylch yw’r pellter o un ochr y cylch i’r llall drwy’r canol.

Y radiws yw’r pellter o ymyl y cylch at y canol.

Cylch a’r diamedr a’r radiws wedi’u labelu

Mae’r diamedr ddwywaith hyd y radiws.

Enghraifft

Radiws pizza yw 16 cm. Beth yw ei ddiamedr?

Pizza gyda radiws 16 cm

\(16 \times 2 = 32~\text{cm}\)