Cylchedd cylch
Cylchedd cylch yw’r pellter o amgylch y cylch. Mae’n enw arall am berimedr cylch.
Rydyn ni’n cyfrifo cylchedd cylch drwy ddefnyddio’r fformiwla hon:
\(\text{cylchedd} = \pi \times \text{diamedr}\)
Ar gyfer unrhyw gylch:
\(\text{cylchedd} \div \text{diamedr} = 3.1415 \dotsc\)
Y rhif hwn yw Pi (\(\pi\)). Mae’n rhif sy’n mynd ymlaen am byth.
\(\pi = 3.1415926535897932384626433832795 \dotsc\)
Ni ellir ysgrifennu Pi ar ffurf ffracsiwn neu ddegolyn union. Gellir defnyddio brasamcanion. Un brasamcan cyffredin yw 3.14.
Mae botwm \(\pi\) ar gyfrifianellau gwyddonol i’w ddefnyddio yn lle brasamcanion.
Enghraifft
Cyfrifa gylchedd y bwrdd dartiau.
Mae’r diamedr yn ddwywaith y radiws.
\(d = 20 \times 2 = 40~\text{cm}\)
Cylchedd = \(40 \times \pi = 125.7~\text{cm}\)
Gelli di roi’r ateb yn nhermau \(\pi\) hefyd. Yn yr achos hwn, yr ateb yw \(40 \pi~\text{cm}\).
Gelli di ddefnyddio’r fformiwla cylchedd i ddatrys problemau.
Question
Pa nifer o gylchdroeon cyflawn y bydd yr olwyn yn eu gwneud os bydd yn teithio 3,500 cm?
Cylchedd yr olwyn yw : \(27.5 \times 2 \times \pi = 172.8~\text{cm}\)
Ar ôl un cylchdro bydd yr olwyn wedi teithio 172.8 cm.
Er mwyn cyfrifo nifer y cylchdroeon:
\(3,500 \div 172.8 = 20.25\)
Mae hyn yn 20 cylchdro cyflawn.