Siapiau 2D gydag un ochr a dim corneli yw cylchoedd. Mae’r cylchyn bob amser yr un pellter o’r canol – y radiws. Rhannau gwahanol o’r cylch yw sector, segment, arc a chord.
Mae dau radiwsY pellter o ganol gylch at ei gylchyn. Y gair lluosog am radiws yw radiysau. yn gwahanu arwynebedd cylch yn ddau sector - y sector mwyaf a’r sector lleiaf.
Er mwyn cyfrifo arwynebedd y sector, cyfrifa yn gyntaf y ffracsiwn o’r cylchdro cyflawn sydd o fewn yr ongl.
Enghraifft
Cyfrifa arwynebedd y sector hwn sydd ag ongl o 60° yn gywir i un lle degol.
Mae 60° yn un chweched o gylchdro cyflawn (360°).
Mae'r sector yn \(\frac{1}{6}\) o'r arwynebedd cyfan.
Cofia arwynebedd cylch = \(\pi r^2\)
Arwynebedd y sector yw: \(\frac{1}{6} \times \pi \times 4^2 = 8.4~\text{cm}^2\)
Y fformiwla ar gyfer cyfrifo arwynebedd sector yw: