Mae siapiau, geometreg ac onglau’n feysydd pwysig ym myd mathemateg. Cyfrifa’r onglau mewn polygonau rheolaidd ac afreolaidd a cher ati i greu brithweithiau a phatrymau teils.
Yn syml, siâp gyda thair neu fwy o ochrau ac onglau yw polygon. Siâp 2D gyda phedair ochr ac ongl yw pedrochr.
Mae yna chwech pedrochr arbennig sydd â phriodweddau gwahanol.
Sgwâr
Mae gan y sgwâr bedair ochr sydd yr un hyd.
Mae ganddo bedair ongl sgwâr (90°).
Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
Mae'r croeslinLlinell sy’n cysylltu dau fertig sydd ddim yn gyfagos (corneli) mewn polygon.haneruRhannu’n ddwy ran hafal, torri yn ei hanner. ei gilydd ar ongl sgwâr.
Petryal
Mae gan y petryal ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
Mae ganddo bedair ongl sgwâr (90°).
Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
Mae’r croesliniau’n haneru ei gilydd.
Mae pob un o onglau allanol y petryal yn 90°.
Paralelogram
Mae gan y paralelogram ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
Mae ganddo ddau bâr o onglau hafal.
Mae ganddo ddau bâr o onglau allanol hafal.
Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
Mae’r croesliniau’n haneru ei gilydd.
Rhombws
Mae gan y rhombws bedair ochr sydd yr un hyd.
Mae ganddo ddau bâr o onglau hafal.
Mae ganddo ddau bâr o onglau allanol hafal.
Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
Mae’r croesliniau’n haneru ei gilydd ar ongl sgwâr.
Trapesiwm
Mae gan y trapesiwm un pâr o ochrau paralel.
Barcut
Mae gan y barcut ddau bâr o ochrau sydd yr un hyd.
Mae ganddo un pâr o onglau hafal.
Mae un groeslin yn cael ei haneru gan y llall ar ongl sgwâr.