PolygonauBrithweithiau

Mae siapiau, geometreg ac onglau’n feysydd pwysig ym myd mathemateg. Cyfrifa’r onglau mewn polygonau rheolaidd ac afreolaidd a cher ati i greu brithweithiau a phatrymau teils.

Part ofMathemategGeometreg a Mesur

Brithweithiau

Brithwaith yw patrwm sy’n cael ei greu gan ddefnyddio siapiau unfath sy’n ffitio at ei gilydd heb unrhyw fylchau rhyngddyn nhw.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 4, Brithwaith sgwariau, Mae’r ongl fewnol mewn sgwâr yn 90°, felly mae pedwar sgwâr yn ffitio at ei gilydd i wneud 360°: 360 ÷ 90 = 4

Gallwn hefyd greu brithwaith allan o rai siapiau sydd ddim yn rheolaidd. Cofia nad oes unrhyw fylchau mewn brithwaith.

Question

Sut byddet ti’n creu brithwaith o’r siâp canlynol? Dylet lunio o leiaf bum copi ohono.

Siâp L rheolaidd.

Question

Dangosa sut mae’r siâp canlynol yn ffurfio brithwaith. Dylet lunio o leiaf bum copi ohono.

Siâp croes rheolaidd.