Mae trawsffurfiad yn newid maint neu safle siâp. Mae siâp tebyg yn amrywio o ran ei faint. Mae siapiau cyfath yn union yr un fath. Mae ffactorau graddfa’n cyfrifo arwynebedd a chyfaint siapiau cyfath.
Gellir adlewyrchu siâp ar draws llinell adlewyrchiad i greu delwedd.
Enw arall ar y llinell adlewyrchiad yw’r llinell ddrych.
Cafodd triongl PQR ei adlewyrchu yn y llinell ddrych i greu’r ddelwedd P'Q'R'.
Mae adlewyrchiad yn enghraifft o drawsffurfiad. Mae trawsffurfiad yn ffordd o newid maint neu leoliad siâp.
Mae pob pwynt yn y ddelwedd ar yr un pellter o’r llinell ddrych ag yn y siâp gwreiddiol.
Mae’r llinell sy’n cysylltu pwynt ar y siâp gwreiddiol â’r un pwynt ar y ddelwedd yn perpendicwlarPan fydd yr ongl rhwng dwy linell yn ongl sgwâr, dywedwn fod y llinellau yn berpendicwlar. i’r llinell ddrych.
Er enghraifft, mae’r llinell rhwng R a R' yn berpendicwlar i’r llinell ddrych.