TrawsffurfiadauSiapiau cyfath

Mae trawsffurfiad yn newid maint neu safle siâp. Mae siâp tebyg yn amrywio o ran ei faint. Mae siapiau cyfath yn union yr un fath. Mae ffactorau graddfa’n cyfrifo arwynebedd a chyfaint siapiau cyfath.

Part ofMathemategGeometreg a Mesur

Siapiau cyfath

Mae dau siâp sydd o’r un maint ac o’r un siâp yn gyfath.

Gwahanol siapiau 6 ochrog, wedi’u labelu o A i H. Mae 3 siâp yn gyfath

Mae siapiau A, B, E ac G yn gyfath. Maen nhw’n unfath o ran maint a siâp.

Trionglau cyfath

Er mwyn i ddau driongl fod yn gyfath, rhaid cwrdd ag un o bedwar maen prawf.

Mae’r tair ochr o’r un hyd (SSS: ochr, ochr, ochr)

Pâr o drionglau SSS

Mae dwy ongl yr un fath ac mae yr un fath (ASA: ongl, ochr, ongl)

Pâr o drionglau ASA

Mae dwy ochr o’r un hyd ac mae’r ongl rhwng y ddwy ochr yn hafal (SAS: ochr, ongl, ochr)

Pâr o drionglau SAS

Mae ongl sgwâr, yr ac ochr gyfatebol yn hafal (RHS, ongl sgwâr, hypotenws, ochr)

Pâr o drionglau RHS

Enghraifft un

Noda a yw’r ddau driongl yn gyfath. Rho reswm dros dy ateb.

Pâr o drionglau SSS (hydoedd: 5.5cm, 4cm a 3cm)

Ydynt - SSS, mae’r tair ochr o’r un hyd.

Enghraifft dau

Noda a yw’r ddau driongl yn gyfath. Rho reswm dros dy ateb.

Pâr o drionglau RHS (hydoedd: 5.8cm, 3cm ac ongl sgwâr) (hydoedd: 58mm, 30mm ac ongl sgwâr)

Ydynt - RHS.

Question

Noda a yw’r ddau driongl yn gyfath. Rho reswm dros dy ateb.

Triongl 1 - onglau 60 a 40 gradd. Ochr 7cm o hyd rhwng yr onglau. Triongl 2 - onglau 60 a 40 gradd. Ochr 7cm o hyd nesaf i’r ongl 60 gradd