Helaethiadau ffracsiynol a darganfod canol yr helaethiad
Helaethiadau ffracsiynol
Os caiff siâp ei helaethu yn ôl ffactor graddfaNifer o weithiau’n fwy neu’n llai y bydd siâp wedi ei helaethu. rhwng 0 ac 1, bydd y ddelwedd yn llai na’r siâp gwreiddiol.
Cafodd triongl ABC ei helaethu yn ôl ffactor graddfa \(\frac{1}{3}\). Mae pob un o ochrau’r triongl A'B'C' yn un rhan o dair o hyd yr ochrau yn y triongl gwreiddiol ABC.
Enghraifft
Helaetha’r triongl ABC yn ôl ffactor graddfa \(\frac{1}{2}\) o amgylch canol yr helaethiad O.
Yn gyntaf, tynna linellau allan o O at bob un o gorneli’r triongl.
Nesaf, mesura'r pellter rhwng O a phob un o gorneli ABC. Rhanna'r pellter â 2 a phlotio’r pwyntiau A' B' ac C'. Fel arall, gellir dangos y pellterau hyn fel fectorau. OA = \(\begin{pmatrix} 2 \\ 2 \end{pmatrix}\) felly yn ôl ffactor graddfa \(\frac{1}{2}\), OA' = \(\begin{pmatrix} 1 \\ 1 \end{pmatrix}\).
Yn olaf, cysyllta’r pwyntiau A' B' C'.
Darganfod canol yr helaethiad
Er mwyn darganfod canol yr helaethiad, tynna linellau allan o gorneli’r ddelwedd drwy gorneli’r siâp gwreiddiol.
Enghraifft
Disgrifia drawsffurfiad y triongl RST.
Image caption, Tynna linellau allan o gorneli triongl RST drwy gorneli R'S'T' nes iddyn nhw groesi. Dyma ganol yr helaethiad
Image caption, Cafodd y triongl ei helaethu yn ôl ffactor graddfa ½ o amgylch canol yr helaethiad (0,2)
1 of 2