TrawsffurfiadauTrawsfudo

Mae trawsffurfiad yn newid maint neu safle siâp. Mae siâp tebyg yn amrywio o ran ei faint. Mae siapiau cyfath yn union yr un fath. Mae ffactorau graddfa’n cyfrifo arwynebedd a chyfaint siapiau cyfath.

Part ofMathemategGeometreg a Mesur

Trawsfudo

Mae trawsfudiad yn symud siâp i fyny, i lawr neu o ochr i ochr ond nid yw’n newid ei ymddangosiad mewn unrhyw ffordd arall.

Mae trawsfudiad yn enghraifft o drawsffurfiad. Mae trawsffurfiad yn ffordd o newid maint neu leoliad siâp.

Mae pob pwynt yn y siâp yn cael ei drawsfudo yr un pellter i’r un cyfeiriad.

Triongl (PQR) wedi ei symud 3 sgwâr i lawr a 4 sgwâr i’r dde

Disgrifio trawsfudiadau

Rydyn ni’n defnyddio colofn i ddisgrifio trawsfudiadau.

Mae \(\begin{pmatrix} 4 \\ -3 \end{pmatrix}\) yn golygu trawsfudo’r siâp 4 sgwâr i’r dde a 3 sgwâr i lawr.

Mae \(\begin{pmatrix} -2 \\ 1 \end{pmatrix}\) yn golygu trawsfudo’r siâp 2 sgwâr i’r chwith ac 1 sgwâr i fyny.

Rhoddir fectorau ar y ffurf \(\begin{pmatrix} x \\ y \end{pmatrix}\) lle mae \(x\) yn symudiad llorweddol ac \(y\) yn symudiad fertigol. Yn yr un modd â setiau o echelinau, mae rhifau negatif yn golygu symud i’r chwith ac i lawr a rhifau positif yn golygu symud i’r dde ac i fyny.

Enghraifft

Disgrifia drawsffurfiad y siâp DEFG.

Siâp wedi ei drawsfudo gan y fector ( -3 \ -6 )

Cafodd y siâp ei drawsfudo gan y fector \(\begin{pmatrix} -3 \\ -6 \end{pmatrix}\).