Mae trawsffurfiad yn newid maint neu safle siâp. Mae siâp tebyg yn amrywio o ran ei faint. Mae siapiau cyfath yn union yr un fath. Mae ffactorau graddfa’n cyfrifo arwynebedd a chyfaint siapiau cyfath.
Part ofMathemategGeometreg a Mesur
Er mwyn disgrifio adlewyrchiad ar grid, bydd angen cael hafaliad y llinell ddrych.
Adlewyrcha y siâp yn llinell \(x = -1\).
Mae’r llinell \(x = -1\) yn llinell fertigol sy’n mynd drwy -1 ar yr echelin-\(x\).
Disgrifia drawsffurfiad y siâp ABC.
Mae’r llinell \(y = 1\) yn llinell lorweddol sy’n mynd drwy 1 ar yr echelin-\(y\).
Cafodd y siâp ei adlewyrchu yn y llinell \(y = 1\).
Adlewyrcha’r siâp yn y llinell \(y = x\).
Mae hafaliad graff llinell syth ar y ffurf \(y = mx + c\), lle bo’r graddiant yn \(m\) ac \(c\) yw’r lle mae’r llinell yn croesi’r echelin-\(y\).
Graddiant y llinell \(y = x\) yw 1 ac mae’n croesi’r echelin-\(y\) yn (0,0).
Graddiant y llinell ddrych yw -1 ac mae’n croesi’r echelin-\(y\) yn (0,0).
Cafodd y siâp ei adlewyrchu yn y llinell \(y = -x\).