Siapiau cyflun
Os caiff siâp ei helaethu, bydd y ddelwedd yn cyflunBod yr un siâp ond nid o reidrwydd yr un maint. Mae’r onglau cyfatebol o fewn y siapiau’n hafal. â’r siâp gwreiddiol. Mae o’r un siâp ond o wahanol faint.
Mae’r ddau siâp hyn yn gyflun gan fod y ddau ohonyn nhw’n betryal ond mae un yn helaethiad o’r llall.
Trionglau cyflun
Mae dau driongl yn gyflun os yw’r onglau o’r un maint neu os yw’r ochrau cyfatebol yn yr un gymhareb. Bydd y naill neu’r llall o’r amodau hyn yn profi bod y ddau driongl yn gyflun.
Mae triongl B yn helaethiad o driongl A yn ôl ffactor graddfaNifer o weithiau’n fwy neu’n llai y bydd siâp wedi ei helaethu. 2. Mae pob un o’r hydoedd yn nhriongl B yn ddwywaith yn hirach nag yn nhriongl A.
Mae’r ddau driongl yn gyflun.
Enghraifft un
Noda a yw’r ddau driongl yn gyflun. Rho reswm dros dy ateb.
Ydynt, maen nhw’n gyflun. Mae’r ddau hyd wedi’u cynyddu yn ôl ffactor graddfa 2. Mae’r ongl gyfatebol yr un fath.
Enghraifft dau
Noda a yw’r ddau driongl yn gyflun. Rho reswm dros dy ateb.
Er mwyn penderfynu a yw’r ddau driongl yn gyflun, cyfrifa'r onglau coll.
Cofia fod yr onglau mewn triongl yn adio i 180°.
Ongl yxz = \(180 - 85 - 40 = 55^\circ\)
Ongl YZX = \(180 - 85 - 55 = 40^\circ\)
Ydynt, maen nhw’n gyflun. Mae’r tair ongl yr un fath.
Enghraifft tri
Noda a yw’r ddau driongl yn gyflun. Rho reswm dros dy ateb.
Nac ydynt. Cafodd dwy o ochrau’r triongl eu cynyddu yn ôl ffactor graddfa 1.5. Mae’r ochr arall wedi gael ei chynyddu yn ôl ffactor graddfa 2.
Cyfrifo hydoedd ac onglau mewn siapiau cyflun
Mewn siapiau cyflun, mae’r hydoedd cyfatebol yn yr un cyfrannedd. Gelli di ddefnyddio’r ffaith hon i gyfrifo hydoedd.
Enghraifft
Cyfrifa hyd PS.
Ffactor graddfa’r helaethiad yw 2.
Mae hyd PS ddwywaith yn hirach na hyd ps.
PS = \(9 \times 2 = 18~\text{cm}\)
Gall siapiau cyflun fod y tu mewn i’w gilydd.
Question
Dangosa fod trionglau ABC a DBE yn gyflun a chyfrifa hyd DE.
Ongl BCA = ongl BED oherwydd onglau cyfatebol mewn llinellau paralel.
Ongl BAC = ongl BDE oherwydd onglau cyfatebol mewn llinellau paralel.
Ongl DBE = ongl ABC am fod y ddau driongl yn rhannu’r un ongl.
Mae pob un o’r tair ongl yr un fath yn y ddau driongl felly maen nhw’n gyflun.
Er mwyn cyfrifo hyd coll, lluniada'r ddau driongl ar wahân a labela'r hydoedd.
Er mwyn cyfrifo’r ffactor graddfa, rhanna'r ddau hyd cyfatebol.
\(\frac{6}{4} = 1.5\)
Er mwyn cyfrifo’r ffactor graddfa, rhanna'r ddau hyd cyfatebol 1.5.
DE = \(7.5 \div 1.5 = 5~\text{cm}\)
Question
Cyfrifa hyd TR.
Er mwyn cyfrifo hyd coll, lluniada'r ddau driongl ar wahân a labela'r hydoedd.
Y ffactor graddfa yw \(\frac{6}{3} = 2\)
Er mwyn cyfrifo TR, darganfydda QR yn gyntaf.
QR = \(6 \times 2 = 12~\text{cm}\)
QR = QT + TR
TR = QR - QT
TR = \(12 - 6 = 6~\text{cm}\)