Cylchdroi
Cylchdroi yw troi siâp o amgylch pwynt sefydlog sy’n cael ei alw’n ganol cylchdro.
Mae cylchdro’n enghraifft o drawsffurfiad. Mae trawsffurfiad yn ffordd o newid maint neu leoliad siâp.
Image caption, Cafodd y siâp ei gylchdroi 90° (chwarter tro) yn glocwedd o amgylch y canol cylchdro
Image caption, Cafodd y siâp ei gylchdroi 180° (hanner tro) o amgylch y canol cylchdro
Image caption, Cafodd y siâp ei gylchdroi 90° (chwarter tro) yn wrthglocwedd o amgylch y canol cylchdro
1 of 3
Cafodd y triongl PQR ei gylchdroi 90° yn wrthglocwedd o amgylch y tarddbwyntY pwynt lle mae’r echelin-x a’r echelin-y yn cwrdd yw pwynt O, sef y tarddbwynt. O i greu’r ddelwedd P'Q'R'.
Enghraifft
Cylchdroi'r triongl PQR 90° yn wrthglocwedd o amgylch y tarddbwynt.
Gelli di ddefnyddio papur dargopïo i gylchdroi siâp.
Dargopïa’r siâp a’r canol cylchdro.
Dal y papur dargopïo yn ei le drwy bwyso blaen pensil ar y canol cylchdro.
Cylchdro’r papur dargopïo a chopïa’r ddelwedd.
Question
Disgrifia drawsffurfiad y petryal ABCD.
Mae pob un o gorneli’r ddelwedd A'B'C'D' ar yr un pellter o’r tarddbwynt ag yn y siâp gwreiddiol. Y tarddbwynt yw’r canol cylchdro.
Cafodd y petryal ABCD ei gylchdroi 180° o amgylch y tarddbwynt (nid oes angen y cyfeiriad gan ei fod yn hanner tro).