Helaethu
Mae helaethu siâp yn newid ei faint.
Mae pob un o ochrau triongl X'Y'Z' ddwywaith hyd ochrau’r triongl gwreiddiol XYZ. Cafodd triongl XYZ ei helaethu yn ôl ffactor graddfaNifer o weithiau’n fwy neu’n llai y bydd siâp wedi ei helaethu. 2.
Mae helaethiad yn enghraifft o drawsffurfiad. Ffordd o newid maint neu leoliad siâp yw trawsffurfiad.
Er mwyn helaethu siâp, mae angen canol yr helaethiad. Wrth helaethu siâp o ganol yr helaethiad, mae’r pellterau o’r canol at bob pwynt yn cael eu lluosi â’r ffactor graddfa.
Mae hydoedd triongl A'B'C' dair gwaith hydoedd triongl ABC. Mae’r pellter rhwng O a thriongl A'B'C' yn dair gwaith y pellter rhwng O ac ABC.
Cafodd triongl ABC ei helaethu yn ôl ffactor graddfa 3 o amgylch y canol helaethiad O.
Helaethiadau positif
Mae ffactor graddfa bositif yn cynyddu maint y siâp.
Enghraifft
Image caption, Helaetha driongl ABC yn ôl ffactor graddfa 2 o amgylch canol yr helaethiad O
Image caption, Yn gyntaf, tynna linellau allan o O at bob un o gorneli’r triongl a’u hymestyn
Image caption, Nesaf, mesura'r pellter rhwng O a phob un o gorneli ABC. Lluosa'r pellter hwn â 2 a phlotio’r pwyntiau A', B', ac C'
Image caption, Yn olaf, cysyllta y pwyntiau A' B' C'
1 of 4
Fel arall, gellir dangos y pellterau OA, OB ac OC fel fectorau. OA = \(\begin{pmatrix} 3 \\ 2 \end{pmatrix}\) felly yn ôl ffactor graddfa 2 OA' = \(\begin{pmatrix} 6 \\ 4 \end{pmatrix}\).
Gall canol yr helaethiad fod y tu allan i wrthrych, neu gall fod y tu mewn i siâp, neu ar ymyl neu ar gornel.
Gall y ddelwedd orgyffwrdd â’r siâp neu gall un fod y tu mewn i’r llall.
Question
Helaetha’r triongl PQR yn ôl ffactor graddfa 3 o amgylch canol yr helaethiad O.
Yn gyntaf, tynna linellau allan o O at bob un o gorneli’r triongl a’u hymestyn.
Nesaf, mesura’r pellter rhwng O a phob un o gorneli PQR. Lluosa'r pellter hwn â 3 a phlotio’r pwyntiau P' Q' ac R'.
Yn olaf, cysyllta’r pwyntiau P' Q' R'.
Question
Pa ffactor graddfa sydd wedi cael ei ddefnyddio i helaethu’r siâp OXYZ i OX'Y'Z'?
Mae pob un o’r ochrau yn siâp OX'Y'Z' ddwywaith yn hirach na’r ochr yn siâp OXYZ.
Cafodd OXYZ ei helaethu yn ôl ffactor graddfa 2 o amgylch canol yr helaethiad O.