Siapiau 2D gydag un ochr a dim corneli yw cylchoedd. Mae’r cylchyn bob amser yr un pellter o’r canol – y radiws. Rhannau gwahanol o’r cylch yw sector, segment, arc a chord.
Part ofMathemategGeometreg a Mesur
Mae cord yn gwahanu cylchedd cylch yn ddwy ran - yr arc fwyaf a'r arc leiaf.
Mae hefyd yn gwahanu’r arwynebedd yn ddau segment - y segment mwyaf a'r segment lleiaf.
Cyfrifa hyd yr arc yn gywir i ddau le degol.
Yn gyntaf, cyfrifa ffracsiwn o’r cylchdro cyflawn sydd o fewn yr ongl.
Mae 90° yn un chwarter o gylchdro cyflawn (360°).
Mae hyd yr arc yn \(\frac{1}{4}\) o'r cylchedd cyfan.
Cofia:
cylchedd cylch = \(\pi d\)
diamedr = \(2 \times \text{radiws}\)
Hyd yr arc yw \(\frac{1}{4} \times \pi \times 8 = 6.28~\text{cm}\)
Y fformiwla ar gyfer cyfrifo hyd yr arc yw:
\(\text{Hyd arc} = {\pi} \times {d} \times \frac{\text{ongl}}{360}\)
Cyfrifa hyd yr arc leiaf yn gywir i un lle degol.
\(\text{Hyd yr arc} = \pi \times 7 \times \frac{144}{360} = 8.8~\text{cm}\)
Cyfrifa hyd yr arc fwyaf yn gywir i un lle degol.
Ongl y sector mwyaf yw \(360 - 110 = 250^\circ\).
\(\text{Hyd yr arc} = \pi \times 12 \times \frac{250}{360} = 26.2~\text{cm}\)