Mae sawl ffordd o ddarganfod syniadau ar gyfer creu drama. Galli di ddefnyddio sgriptiau, themâu a chymeriadau o ddramâu neu galli di ddefnyddio ysgogiad megis cerddoriaeth a barddoniaeth.
Ceisia arbrofi gyda phwy sydd â’r statws neu’r pŵer uchaf mewn sefyllfa waith. Gall hyn gynhyrchu cynnwys diddorol a doniol. Beth sy’n digwydd os oes statws isel iawn gan bennaeth heb unrhyw reolaeth ond bod y glanhawr yn ymddwyn fel petai’n rheoli? Yn y clip Saesneg hwn mae’r actorion Adrian Lester a Lolita Chakrabarti yn edrych ar bwysigrwydd statws mewn perfformiad.